Glofa Parc Slip
glofa yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Ffrwydrad Glofa Parc Slip)
Glofa yn Abercynffig ger Ton-du yn sir Pen-y-bont ar Ogwr oedd Glofa Parc Slip.
Enghraifft o'r canlynol | glofa |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Perchnogion y lofa oedd North's Navigation Collieries (1889) Ltd a'i bencadlys yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd (Cadeirydd: Berry, H. Seymour, Gwaelod-y-garth, Merthyr Tudful). Yn 1896 roedd y cwmni'n cyflogi bron i ddwy fil o weithwyr mewn 8 glofa.[1]
Ar 26 Awst 1892 bu farw 112 o fechgyn a dynion mewn ffrwydrad a achoswyd, mae'n debyg, o ganlyniad i nam gydag un o lampiau Davy'r glowyr.[2]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Gwefan Durham Mining Museum; adalwyd 26 Awst 2016.
- ↑ Cofio trychineb Parc Slip. BBC (26 Awst 2014). Adalwyd ar 26 Awst 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato