Flea

actor a aned yn 1962

Mae Michael Peter Balzary (ganwyd 16 Hydref 1962), sydd yn cael ei adnabod fel Flea, yn faswr ac yn aelod o’r band roc-ffync Red Hot Chilli Peppers ers eu hymffurfiant yn 1983. Mae Flea hefyd wedi chwarae gyda bandiau megis Fear, Jane’s addiction, What is this, ac Atoms for peace.

Flea
Ganwyd16 Hydref 1962 Edit this on Wikidata
Melbourne Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
Label recordioWarner Bros. Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Awstralia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Fairfax High School
  • USC Thornton School of Music Edit this on Wikidata
Galwedigaethgitarydd bas, actor, actor ffilm, trympedwr, canwr, cerddor, actor teledu, pianydd, actor llais Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Jane's Addiction
  • Red Hot Chili Peppers Edit this on Wikidata
Arddullroc amgen Edit this on Wikidata
PriodFrankie Rayder, Melody Ehsani Edit this on Wikidata
PartnerFrankie Rayder Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.redhotchilipeppers.com Edit this on Wikidata

Yn ei chwarae, mae yna elfennau o Ffync (megis bas slap), Punk, a roc seicedelig yn ei chwarae. Yn 2009, cafodd ei enwi gan Rolling Stone y baswr ail orau yn y byd, dim ond tu ôl i John Entwistle. Yn 2012 cafodd ei fand Red Hot Chilli Peppers ei urddo i'r Rock and Roll Hall of Fame.

Bywyd a Gyrfa golygu

Ganed Flea ym Melbourne, Victoria. Roedd ei dad yn bysgotwr. Ym 1966 symudodd ef a’i deulu i Efrog Newydd. Ym 1971 ysgarodd ei rieni, ac aeth Flea i fyw efo’i fam, a briododd gerddor Jazz. Bu hyn yn achosi i Flea ddechrau cymryd diddordeb yng Ngherddoriaeth Jazz, gan gychwyn chwarae’r trwmped. Aeth Flea i ysgol uwchradd Fairfax, lle bu'n cyfarfod â Anthony Kiedis, a cychwynodd chwarae'r gitar bas. Daeth y ddau ohonyn nhw'n ffrindiau agos, a gyda'r gitarydd Hillel Slovak, ffurfion nhw'r band Anthym. Gadawodd Flea y band ar ôl ychydig o fisoedd i ymuno â'r grwp Fear.