Y Fuegiaid yw trigolion brodorol Tierra del Fuego, pwynt mwyaf deheuol De America. Yn gyffredinol mae'r enw yn golygu pobl Yaghan Tierra del Fuego. Yn Sbaeneg gall olygu unrhyw un o'r orynys honno.

Darlun o Fuegiad (Yaghan, efallai) a wnaethpwyd ar fordaith HMS Beagle.

Roedd y Fuegiaid yn perthyn i sawl grŵp yn wreiddiol, yn cynnwys yr Ona (Selk'nam), Haush (Manek'enk), Yahgan (Yámana), a'r Alacaluf (Kawésqar). Ac eithrio'r Selk'nam, roedd y llwythau hyn i gyd yn byw ar arfordir Tierra del Fuego ac yn defnyddio canŵs i deithio o gwmpas yr arfodir a'r ynysoedd cyfagos. Roedd y Selk'nam yn byw ar Isla Grande de Tierra del Fuego ac yn dibynnu'n bennaf ar hela guanacos am fwyd. Siaradai'r pobloedd Fuegiaidd peoples sawl iaith wahanol: ieithoedd ynysig oedd yr iaith Kawésgar a'r iaith Yaghan, a siaradai'r Selk'namiaid iaith Chon, fel yn achos y Tehuelches ar y tir mawr.

Pan ddaeth yr Ewropeaid cyntaf, yn bobl o Tsile ac Ariannin, i ymsefydlu ar yr ynysoedd ganol y 1800au, daethant ag afiechydion fel y frech goch a'r frech wen gyda hwy, ac roedd y Fuegiaid yn methu eu gwrthsefyll. Cafodd y boblogaeth ei degymu gan afiechyd, a syrthiodd nifer y Fuegiaid o rai miloedd yn y 1800au i ddim on rhai cannoedd erbyn y 1900au. Heddiw nid oes yr un Fuegiad gwaed coch ar ôl; bu farw yr olaf yn 1930.


Eginyn erthygl sydd uchod am Dde America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato