Un o farwniaid y Mers oedd Fulk FitzWarin (bu farw 1258) a arweiniodd wrthryfel yn erbyn Ioan, brenin Lloegr yn 1200–03. Roedd yn perthyn i deulu Arglwyddi Whittington, Swydd Amwythig, er oedd y faenor honno ym meddiant Roger de Powys, ac yna'i fab Meurig, ers oes Harri II. Bu farw tad Fulk FitzWarin yn 1197, a thalodd £100 i'r Brenin Ioan i geisio adennill ei enedigaeth-fraint yn Whittington. Gwrthododd Ioan ddychwelyd â'r faenor iddo, gan beri'r gwrthryfel yn ei erbyn. Cafodd Fulk FitzWarin ei roi ar herw gan Ioan, ac o'r diwedd fe'i pardynwyd yn Nhachwedd 1203 a derbyniodd Gastell Whittington yn 1204.[1] Fe' portreadwyd yn ffigur rhamantaidd, megis Robin Hwd, ar ddwy ochr y ffin ac yn gymeriad yn llên gwerin y Sais a'r Cymro.

Fulk FitzWarin
Ganwyd1160s Edit this on Wikidata
Bu farw1258 Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
TadFulk Fitzwarine Edit this on Wikidata
MamHawise de Dinan Edit this on Wikidata
PriodMaud le Vavasour, y Farwnes Butler Edit this on Wikidata
PlantMabel Fitzwarin, Fulk Fitzwarine Edit this on Wikidata

Gwyddys am gerdd Eingl-Normaneg amdano o ddiwedd y 13g, er nad yw'r un copi ohoni'n goroesi. Honno oedd sail y rhamant ryddieithol Ffrangeg Fouke le fitz Warin sy'n dyddio o ddechrau'r 14g. Yn y gwaith hwnnw, benthycir tadenw'r arwr o'i gyndad Warin de Metz, y cyntaf o Arglwyddi Whittington. Ceir gwybodaeth fanwl o ddaearyddiaeth Gogledd Cymru a'r Mers yn y rhamant, a sonir am frwydrau'r ffin rhwng yr Eingl-Normaniaid a Thywysogion Powys, gan gynnwys Owain Cyfeiliog.[2]

Gwyddys taw cynghreiriad ac yn hwyrach elyn i Lywelyn Fawr oedd y Fulk FitzWarin go iawn. Ymddengys y cymeriad Ffug Ffitswarren mewn stori rybudd o Forgannwg a gyhoeddwyd gan Isaac Foulkes yn y gyfrol Cymru Fu (1862–64), er nad yw ffynhonnell y chwedl honno yn hysbys. Ni cheir cyfieithiad Cymraeg o hanes Fulk FitzWarin, ond mae sawl bardd yr Oesoedd Canol, yn eu plith Dafydd ap Gwilym ac Iolo Goch, yn cyfeirio at Syr Ffwg, un sy'n cynrychioli gwroldeb anorthrech.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Fitzwarine family", Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2019.
  2. 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.) The New Companion to the Literature of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998), t. 247–8.

Darllen pellach golygu

  • A. Robson, Fouke le Fitz Warin (1975).