Geraint Morgan

gwleidydd Ceidwadol

Yr oedd William Geraint Oliver Morgan, QC (2 Tachwedd 1920 – 2 Gorffennaf 1995) yn wleidydd o'r Blaid Geidwadol Brydeinig, cyfreithiwr, hyrwyddwr yr iaith Gymraeg a chyn-filwr o'r Ail Ryfel Byd.

Bywgraffiad golygu

Ganed Geraint Morgan yn ardal Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yn fab i’r ffermwr llaeth Morgan Morgan (1888–1950) ac Elizabeth ‘Lizzie’ Oliver (1893–1980). Symudodd y teulu i Newport Pagnell, Swydd Buckingham, lle parhaodd ei dad i ffermio yn Woad Farm, Lathbury. Addysgwyd Morgan yn Ysgol Bedford, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Neuadd y Drindod, Caergrawnt. Yn ddwyieithog ers yn blentyn ifanc yn y Gymraeg a’r Saesneg, dysgodd Ffrangeg i safon uchel yn yr ysgol a dysgodd Almaeneg ac Eidaleg trwy ei ymdrechion ei hun. Ymunodd â Chatrawd Suffolk yn 1939, a chafodd ei gomisiynu yn y Royal Marines. Glaniodd ar Draeth Aur ar D-Day a gweld diwedd y rhyfel fel Uwchgapten. Daeth yn fargyfreithiwr, ei alw i'r bar gan Gray's Inn yn 1947, ac yn Gwnsler y Frenhines. Bu'n ymarfer ar gylchdaith y Gogledd.

Cystadlodd Geraint Morgan Meirionydd yn 1951 a Huyton yn 1955 yn erbyn Harold Wilson. Bu'n Aelod Seneddol dros Ddinbych o 1959 i 1983, pan ddiddymwyd y sedd trwy newidiadau ffiniau. Nodwyd mai prin y byddai'n gwneud unrhyw areithiau yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod ei 24 mlynedd fel aelod. Cofnododd ei ysgrif goffa yn The Independent (papur newydd Prydeinig):

"Although not the most frequent of speakers in the Commons, his commitment to the North Wales constituency was unswerving - and totally fair to those he represented. He answered letters from Welsh-speakers in Welsh - and in his own meticulous handwriting. There were triumphs too small to register on the Westminster scale which were of importance to his constituents. Many householders living near the A55 - a road designated "a highway of opportunity" - thanked him for the compensation they received when the road was upgraded."
"Er nad oedd yn un a siaredir yn aml yn Nhŷ'r Cyffredin, diflino oedd ei ymroddiad i'w etholaeth yng Ngogledd Cymru - ac yn hollol deg i'r cyfan a gynrychiolodd. Atebodd lythyrau gan siaradwyr Cymraeg yn y Gymraeg - ac yn ei lawysgrifen fanwl gywir. Yr oedd ei fuddugoliaethau, er yn bitw yn San Steffan, o bwysigrwydd mawr i'w etholwyr. Diolchodd nifer o breswylwyr ger A55 - ffordd a hyrwyddwyd fel "priffordd cyfleoedd" - am yr iawndal y derbynion yn sgil uwchraddio'r ffordd."


Ni fu Geraint Morgan erioed yn un diamheuol i fynd drwy'r lobi a ddynodwyd gan chwipiaid y blaid. Yn fuan ar ôl ei ethol, gwrthododd gefnogi ei blaid ei hun dros Berthynas Profumo. Ym 1972, pleidleisiodd yn erbyn Prydain yn ymuno â'r Farchnad Gyffredin, a ddaeth i fod yn rhan graidd o'r Undeb Ewropeaidd, wedi datblygiad sylweddol. Yr oedd hyn yn groes i bolisi'r blaid, gan fod ymuno Prydain â'r Farchnad Gyffredin yn nod canolog bryd hynny i arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ac yn arbennig i'r Prif Weinidog, Edward Heath.

Yn etholiad cyffredinol 1983 ceisiodd gael ei ddewis ar gyfer sedd newydd Gogledd Orllewin Clwyd, a oedd wedi'i seilio i raddau helaeth ar ei hen etholaeth yn Ninbych, gydag ychwanegiad rhannau o etholaeth y Fflint, ond cafodd ei hun mewn brwydr ddethol frwd rhwng Syr Anthony Meyer a Beata Brookes, Aelod Senedd Ewrop dros Ogledd Cymru. Ceisiodd swyddfa ganolog y Blaid Geidwadol barasiwtio Beata Brookes i mewn fel ymgeisydd, er nad oedd ganddi gefnogaeth ar lawr gwlad yn Ninbych na'r Fflint. Llwyddodd Anthony Meyer i erlyn yn gyfreithiol bod gorfodaeth Brookes fel ymgeisydd yn cael ei ddatgan yn anghyfreithlon. Cynhaliwyd cyfarfod dethol newydd, ble’r oedd y dewis rhwng Meyer a Brookes. Gwrthodwyd cais Geraint Morgan i gael ei gynnwys yn y cyfarfod, er yn ôl llygad-dystion, yr oedd yn derbyn cefnogaeth sylweddol o lawr y cyfarfod cyhoeddus (yn agored i aelodau’r Blaid Geidwadol, ond heb ganiatâd pleidlais gyffredinol).

Ar ôl gadael Senedd San Steffan, parhaodd Geraint Morgan i ymarfer y gyfraith fel Cofiadur Llys y Goron.

Yr oedd Geraint Morgan yn briod, gyda phedwar o blant.

Yn hanesydd, yn ogystal ag ieithydd, yr oedd Geraint Morgan yn hoff o nodi, pan wyddai mai ef fyddai AS olaf Dinbych, bod AS cyntaf Dinbych wedi meddiannu'r sedd (llythrennol) nesaf i AS olaf dros Calais, yn Senedd San Steffan.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu