Term i ddisgrifio ffafriaeth Joseff Stalin am gynlluniau mawr gweladwy i ddangos nerth a llwyddiant y wlad ydy Gigantomania.[1] Drwy'r 1920au a'r 1930au codwyd llawer o adeiladau a threfydd enfawr yn unol â syniadaeth Karl Marx er mwyn dangos fel y gall y system sosialaidd fod yn llawer gwell na'r system gyfalafol.

Roedd rhai o’r prosiectau, megis y ganolfan fetelegol fawr newydd a sefydlwyd yn Magnitogorsk yn yr Undeb Sofietaidd yn anferth. Rhwng 1928-32 mudodd tua 250,000 o bobl i fyw a gweithio yno.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Undeb Sofietaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.