Glesyn Adonis

enw tacson
Glesyn Adonis
Lysandra bellargus oedolyn
Lysandra bellargus yn cyplysu)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lycaenidae
Llwyth: Polyommatini
Genws: Lysandra
Rhywogaeth: L. bellargus
Enw deuenwol
Lysandra bellargus
(Rottemburg, 1775)
Cyfystyron

Polyommatus bellargus

Gwryw
Gwryw
Benyw
Benyw

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn Adonis, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision Adonis; yr enw Saesneg yw Adonis Blue, a'r enw gwyddonol yw Lysandra bellargus neu Polyommatus bellargus.[1][2] Mae i'w gael yng Ngorllewin Ewrop, De Ewrop, De Rwsia, Iran, Mynyddoedd y Cawcasws a Thwrci.

Dim ond yr oedolyn gwryw sydd a'r lliw glas ar ran uchaf ei adenydd. Sbotiau glas yma ac acw sydd gan y fenyw a hynny yn y rhan agosaf at ei chorff o'i hadenydd. Siocled brown ydy lliw gweddill ei hadain, gyda pheth oren.

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r glesyn Adonis yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Cynefin golygu

Mae'r glöyn byw hwn yn hoff iawn o weundiroedd glaswelltog eitha calchog, ac yn prinhau gan fod ei gynefin hefyd yn newid.

Manylion golygu

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.