Polyommatus coridon
neu Lysandra coridon
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lycaenidae
Llwyth: Polyommatini
Genws: Polyommatus
Rhywogaeth: P. coridon
Enw deuenwol
Polyommatus coridon
(Poda, 1761)
Cyfystyron

Lysandra coridon

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn y sialc, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision y sialc; yr enw Saesneg yw Chalkhill Blue, a'r enw gwyddonol yw Polyommatus coridon neu Lysandra coridon.[1][2]

Ŵy

Lliw golygu

Mae gan yr oedolyn gwryw adenydd arianlas gydag ymylon du a gwyn. Mae'r fenyw yn dywyllach, ond mae ganddynt hwythau hefyd ymylon tebyg. Gellir dweud y gwahaniaeth rhyngddynt drwy edrych o dan eu hadenydd.

Cynefin golygu

Yng ngwledydd Prydain, fe'i welir mewn iseldiroedd calchog sydd heb wrtaith arno. Mae'r oedolyn i'w weld rhwng Gorffennaf a Medi am gyfnod o rhwng 6-8 wythnos.

Bwyd golygu

Mae'r siani flewog yn hoff iawn o Hippocrepis comosa (ffacbysen bedol).

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae glesyn y sialc yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  • Butterfly Conservation (undated) Butterfly species data: Chalkhill Blue. [1] Archifwyd 2006-10-12 yn y Peiriant Wayback. (Accessed 2 Nov 2006)
  • Emmet, A.M. (1990) Lysandra coridon (Poda). Pages 160-162 in The Moths and Butterflies of Great Britain and Ireland Vol. 7 Part 1 (ed. A.M. Emmet and J. Heath). Harley Books, Colchester, UK.
  • Tomlinson, D. and R. Still (2002) Britain's Butterflies. WildGuides, Old Basing, UK.