Glyn M. Ashton

cyfieithydd ac awdur Cymraeg

Cyfieithydd ac awdur Cymraeg oedd Glyn Mills Ashton (neu Wil Cwch Angau) (1910 - 1991)[1]. Cafodd ei eni yn Y Barri, Sir Forgannwg ym 1910 a'i addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd lle buodd yn dysgu Cymraeg yng Ngholeg Illtud Sant, Caerdydd, am tua ugain mlynedd ac yna yn Llyfrgellydd Llyfrgell Salisbury, yn y Brifysgol, Caerdydd. Roedd yn awdur nifer o lyfrau ac yn weithgar dros y Gymraeg yn arbennig ar Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1968, 1968. Bu farw yn 1991, mae ei bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol.[2]

Glyn M. Ashton
Ganwyd1910 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw1991 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Llyfryddiaeth golygu

Roedd yn awdur nifer o lyfrau ysgafn, crafog gan gynnwys:[2]

  • Tipyn o Annwyd (1960),
  • Y Pendefig Pygddu (1961),
  • Gemau Hwngaria (straeon byrion), cyfieithwyd gan Glyn M Ashton a Tamas Kabdebo. (Gwasg Gee, 1961)
  • Angau yn y Crochan (1969), o dan y ffugenw "Wil Cwch Angau"
  • Doctor! Doctor! (1964)
  • Canmol dy Wlad (1966)

Golygodd y canlynol:[2]

  • Hunangofiant a llythyau Twm o'r Nant; (Caerdydd, 1962)
  • Anterliwtiau Twm o'r Nant: Pedair Colofn Gwladwriaeth a Cybydd-dod ac Oferedd (Caerdydd, 1964) (golygydd)

Atgofion (1972)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Archives Network Wales; adalwyd 01/03/2012[dolen marw]
  2. 2.0 2.1 2.2 "Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd, 1997)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2012-03-02.