Dosbarth neu genre o gerddi a geir yng ngwaith Beirdd y Tywysogion yn yr Oesoedd Canol yw Gorhoffedd. Prif ystyr y gair gorhoffedd yw 'ymffrost' ond fe'i diffinnir hefyd fel 'edmygedd, canmoliaeth fawr, balchder, bost; hyfrydwch, gormod hoffter, pleser'.[1]

Cerdd o natur ymffrostgar sy'n mynegi llawenydd y bardd yn ei orchest ryfelgar, ei gariad at ferch, ei hoffedd o natur, neu'r elfennau hyn i gyd, yw'r Gorhoffedd. Fe'i nodweddir gan elfen gref o gellwair hefyd. Mae'r Gorhoffedd yn sefyll allan yng ngwaith y Gogynfeirdd am ei fod yn ganu o natur bersonol yn hytrach an chanu mawl.

Yr enghreifftiau o ganu Gorhoffedd sydd ar gael heddiw yw'r cerddi gan Hywel ab Owain Gwynedd ('Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd'), Gwalchmai ap Meilyr ('Gorhoffedd Gwalchmai') ac Owain Cyfeiliog ('Gorhoffedd Owain Cyfeiliog'). Diau bod sawl enghraifft arall o'r genre heb oroesi. Ceir cerddi ymffrost cyffelyb yng ngwaith rhai o'r Cywyddwyr hefyd, ond ni ddefnyddir y gair gorhoffedd i'w disgrifio.

Dyma enghraifft allan o gerdd enwog Hywel ab Owain Gwynedd sy'n moli Gwynedd (a'i merched!):

Caraf ei theulu a'i thew annedd—ynddi,
Ac wrth fodd ei rhi rhwyfaw dyhedd.
Caraf ei morfa a'i mynyddedd,
A'i chaer ger ei choed a'i chain diredd,
A dolydd ei dwfr a'i dyffrynedd,
A'i gwylain gwynion a'i gwymp wragedd.'[2]

Gellid cyferbynnu'r Gorhoffedd â'r genre 'Casbethau' a geir yn yr Areithiau Pros, e.e. 'Casbethau Owain Cyfeiliog'.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 2, tud. 1487.
  2. Kathleen Anne Bramley (gol.), 'Gwaith Hywel ab Owain Gwynedd', Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Caerdydd, 1994), tud. 121.

Llyfryddiaeth golygu

  • Gruffydd Aled Williams, 'Owain Cyfeiliog: Bardd-dywysog?', Beirdd a Thywysogion (Caerdydd, 1996)