Grŵp Coimbra

Cymdeithas i brifysgolion Ewrop

Mae Grŵp Coimbra yn rhwydwaith o 41 o brifysgolion Ewropeaidd a sefydlwyd ym 1985 ar hyn o bryd. Statws cyfreithiol y grŵp yw cymdeithas ddi-elw o dan gyfraith Gwlad Belg.[1] Cynrychiolir y grŵp gan y Gymanfa Gyffredinol. Lleolir y grŵp ym Mrwsel, prif ganolfan weinyddol yr Undeb Ewropeaidd. Fe'i sefydlwyd ym 1985.[2] Nid oes prifysgol Gymreig yn aelod o'r Grŵp.

Grŵp Coimbra
Enghraifft o'r canlynoluniversity network Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1985 Edit this on Wikidata
Map
Aelod o'r  canlynolCoalition for Advancing Research Assessment Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolnon-profit organisation Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Enw brodorolCoimbra Group Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.coimbra-group.eu Edit this on Wikidata
Logo Grŵp Coimbra

Nod golygu

Mae'n gweithio er budd ei haelodau trwy hyrwyddo "rhyngwladoli, cydweithio academaidd, rhagoriaeth mewn dysgu ac ymchwil, a gwasanaeth i gymdeithas" trwy "greu cysylltiadau academaidd a diwylliannol arbennig", trwy lobïo ar lefel Ewropeaidd, a thrwy ddatblygu arferion gorau.[3]

Mae Cynghrair elitaidd y League of European Research Universities (LERU) yn fwy dylanwadol gyda 23 o aelodau, tra bod European University Association (EUA) yn fwy eang gyda thua 850 o aelodau. Ceir sefydliadau lobïo prifysgolion eraill hefyd.[4]

Mae'r grŵp wedi'i enwi ar ôl dinas Portiwgal, Coimbra, y sefydlwyd ei phrifysgol yn 1290.

Disgrfiad golygu

 
Cwrt yr hen Balas Frenhinol a ddaeth yn Brifysgol

Mae'r grŵp yn gweld ei hun fel sefydliad o brifysgolion traddodiadol, Ewropeaidd, amlddisgyblaethol o galibr rhyngwladol uchel.

Pwrpas statudol y sefydliad yw creu cysylltiadau academaidd a diwylliannol er budd yr holl aelodau, yn ogystal â rhyngwladoli a chydweithio academaidd. Mae'r aelodau wedi'u huno drwy geisio rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil a gwasanaeth i gymdeithas yn gyffredinol.[5]

Un nod yw cyfnewid syniadau bywiog. Nod arall y grŵp yw’r dylanwad ar y cyd ar bolisi addysg ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd.

Yn 2013 roedd y Grŵp yn cynnwys 40 prifysgol ond mae'r niferoedd wedi disgyn a chodi rhywaint dros y blynyddoedd.[6][7]

Members golygu

Yn Chwefror 2023 roedd Grŵp Coimbra yn cynnwys 40 prifysgol mewn 22 gwladwriaeth:[8]

Sefydliad Gwlad
Prifysgol Graz   Awstria
KU Leuven   Gwlad Belg
Prifysgol Gatholig Louvain*   Gwlad Belg
Prifysgol Siarl, Prâg   Gweriniaeth Tsiec
Prifysgol Aarhus*   Denmarc
Prifysgol Tartu   Estonia
Prifysgol Akademi Åbo, Turku   Ffindir
Prifysgol Turku   Ffindir
Prifysgol Montpellier   Ffrainc
Prifysgol Paul Valéry Montpellier 3   Ffrainc
Prifysgol Poitiers*   Ffrainc
Prifysgol Göttingen*   Yr Almaen
Prifysgol University*   Yr Almaen
Prifysgol Jena   Yr Almaen
Prifysgol Köln   Yr Almaen
Prifysgol Würzburg*   Yr Almaen
Prifysgol Eötvös Loránd, Budapest   Hwngari
Prifysgol Galway*   Iwerddon
Prifysgol Dulyn*   Iwerddon
PrifysgolBologna*   Yr Eidal
Prifysgol Padua   Yr Eidal
Prifysgol Pavia*   Yr Eidal
Prifysgol Siena*   Yr Eidal
Vilnius University   Lithwania
Prifysgol Groningen   Yr Iseldiroedd
Leiden University*   Yr Iseldiroedd
Utrecht University   Yr Iseldiroedd
Prifysgol Bergen   Norwy
Prifysgol Jagiellonian, Kraków   Gwlad Pwyl
Prifysgol Coimbra*   Portiwgal
Prifysgol Alexandru Ioan Cuza, Iași   Rwmania
Prifysgol Barcelona   Sbaen
Prifysgol Granada*   Sbaen
Prifysgol Salamanca*   Sbaen
Uppsala University   Sweden
Prifysgol Genefa   Y Swistir
Prifysgol Istanbul   Twrci
Prifysgol Durham   Y Deyrnas Unedig
Prifysgol Bryste   Y Deyrnas Unedig
Prifysgol Caeredin*   Y Deyrnas Unedig

Aelodau a ataliwyd golygu

Ataliwyd elodaeth Prifysgol Gwladwriaethol Saint Petersburg (Rwsia) ar 10 Mawrth 2022.[8]

Cyn aelodau golygu

(* dynodi aelod sefydlu)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Archifwyd [Date missing], at www.coimbra-group.eu Error: unknown archive URL
  2. "Coimbra Group Universities". www.coimbra-group.eu (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-22.
  3. "Mission statement". Coimbra Group. Cyrchwyd 1 March 2017.
  4. Tania Rabesandratana: European research universities form a new lobby organization—but did they need it? Science, 2016, doi:10.1126/science.aag0590.
  5. Archifwyd [Date missing], at www.coimbra-group.eu Error: unknown archive URL (PDF; 75 kB): "Work with European Union (EU) institutions […] to the benefit of its members", "promote the group", "Ensuring that information […] is widely disseminated […] and brought to the attention of the relevant authorities […]"
  6. "NUI Galway hosts Coimbra Group Annual Conference, 2013℅". NUI Galway. 20 May 2013. Cyrchwyd 1 March 2017.
  7. "Members". Coimbra Group. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 May 2013. Cyrchwyd 1 March 2017.
  8. 8.0 8.1 "Member Universities of the Coimbra Group" (PDF). Coimbra Group. Cyrchwyd 3 February 2023.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.