Actor a digrifwr Cymreig[1] yw Greg Davies (ganwyd 14 Mai 1968) sy'n adnabyddus am ei ran fel Mr Gilbert yn The Inbetweeners, Ken Thompson yn Cuckoo, a'i ymddangosiadau gwadd ar sioeau panel Mock the Week, Would I Lie to You? a Fast and Loose. Mae wedi perfformio ar y gyfres Live at the Apollo ar y BBC.

Greg Davies
GanwydGregory Daniel Davies Edit this on Wikidata
14 Mai 1968 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Man preswylWem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Thomas Adams School
  • Prifysgol Brunel Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, athro ysgol, actor teledu, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Inbetweeners, Mock the Week, Taskmaster, Man Down, Cuckoo Edit this on Wikidata
Taldra2.03 metr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://gregdavies.co.uk Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Davies yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Roedd ei rieni yn byw yn Lloegr ar y pryd ond fel Cymro roedd ei dad am iddo gael ei eni yng Nghymru. Felly fe yrrodd ei wraig ar draws y ffin i Gymru.[2] Fe'i magwyd yn Wem, tre farchnad fechan yng ngogledd Swydd Amwythig, y sir mae'n ystyried yn gartref.[3][4] Addysgwyd Davies yn Ysgol Thomas Adams a Phrifysgol Brunel, lle astudiodd Saesneg a drama.[5] Cyn dechrau ar yrfa yng nghomedi, fe ddysgodd ddrama a Saesneg mewn ysgol uwchradd am 13 mlynedd yn Langleywood School, Berkshire, a Orleans Park School yn Twickenham, Llundain.[6]

Gyrfa golygu

Yn 2005 chwaraeodd Davies fersiwn dychanol o W.G. Grace mewn cyfres o hysbysebion i hyrwyddo darllediadau teledu Channel 4 o The Ashes.[7]

Yn 2007 enwebwyd Davies deirgwaith yng Ngwobrau Chortle, yn y categorïau  "Breakthrough Act" (am ei berfformiad stand-up unigol), "Best Sketch, Variety or Character Act", a "Best Full-Length Show" (y ddau fel rhan o dîm sgets We Are Klang).[8]

Yn 2010 enwebwyd sioe stand-up unigol cyntaf Davies, Firing Cheeseballs at a Dog ar gyfer Gwobr Comedi Caeredin yng Ngŵyl Caeredin.[9] Fe aeth y sioe ar ei daith gyntaf erioed yr hydref canlynol.[10] Fe'i henwebwyd hefyd ar gyfer gwobr Malcolm Hardee "Act Most Likely to Make a Million Quid" yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.[11]

O Hydref 2013 serennodd Davies yn y comedi sefyllfa Man Down ar Channel 4 ,[12] yn chwarae Dan, dyn sy'n casáu ei swydd fel athro,[13] gyda Rik Mayall yn chwarae ei dad. Comisiynodd Channel 4 bennod Nadolig arbennig cyn i'r gyfres gyntaf fynd i'r awyr,[14] a chyhoeddwyd y byddai ail gyfres yn ystod taith fyw Davies, "The Back of My Mum's Head", ond roedd hyn yn cyn marwolaeth sydyn Rik Mayall yn Mehefin 2014. Yn dilyn marwolaeth Mayall, bu Davies yn trafod dyfodol y sioe gyda Channel 4. Roedd yn fwriad i ehangu rhan Mayall yn yr ail gyfres.[15] Yn ddiweddarach fe gyhoeddodd Channel 4 y bydd ail gyfres yn 2015.[16] Y stafell ddosbarth a ddefnyddir yn y sioe yw'r un stafell lle'r oedd Davies yn arfer dysgu yn Ysgol Sandhurst.[17]

Yn Rhagfyr 2015 serennodd Davies yn nrama gomedi A Gert Lush Christmas ar BBC Two lle'r oedd yn chwarae Tony, ewythr cymeriadau yn cael ei chwarae gan Russell a Kerry Howard. Ar Ddydd Nadolig 2015 fe ymddangosodd fel y cymeriad King Hydroflax ym mhennod arbennig Doctor Who "The Husbands of River Song'[18]

Bywyd personol golygu

Mae Davies yn nodedig am ei daldra, yn sefyll yn 6 ft 8 in (2.03 m)  ac mae ganddo draed maint 14.[19][20]

Roedd yn arfer bod mewn perthynas gyda'r gwleidydd Llafur Liz Kendall, a ail-etholwyd yn Aelod Seneddol dros Leicester West yn 2015.[21] Fodd bynnag fe wahanodd y cwpl ychydig fisoedd cyn Etholiad Cyffredinol.[22][23]

Ffilmyddiaeth golygu

Blwyddyn Title Rhan
2006 Girls? Eugh!
2007 The Musical Storytellers Ginger & Black Mr Hopkirk
2007 Saxondale Dunc
2008 The Wall Amryw o gymeriadau
2008–2010 The Inbetweeners Mr Gilbert
2009 We Are Klang Greg
2011 Fast and Loose Ei hun
2011 The Inbetweeners Movie Mr Gilbert
2011 Greg Davies Live – Firing Cheeseballs at a Dog Ei hun
2012–present Cuckoo Ken
2013 Greg Davies Live – The Back of My Mum's Head Ei hun
2013–present Man Down Dan
2014 This is Jinsy Jennitta Bishard
2014 The Inbetweeners 2 Mr Gilbert
2015 Taskmaster Ei hun
2015 A Gert Lush Christmas Uncle Tony
2015 Doctor Who King Hydroflax

Cyfeiriadau golygu

  1. "Greg Davies – Celtic Life International" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-21.
  2. Wales, South (2012-10-11).
  3. "My life in travel: Greg Davies, actor and comedian".
  4. "Wem's Greg Davies makes it big" Archifwyd 2011-11-17 yn y Peiriant Wayback..
  5. Greg Davies Radio Times interview.
  6. "Tall tales with king of comedy Greg Davies"[dolen marw].
  7. "Breaking Ads – Channel 4 – Ashes coverage" Archifwyd 2011-09-28 yn y Peiriant Wayback..
  8. Chortle Awards 2007 nominations
  9. "Fosters Edinburgh Comedy Award 2010 nominations". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-19. Cyrchwyd 2016-02-10.
  10. "Greg Davies sends fans home laughing".
  11. "British Comedy Guide, August 2009".
  12. "Man Down".
  13. Jeffery, Morgan (2 November 2012).
  14. "Channel 4 orders Christmas special of Man Down".
  15. [1][dead link]
  16. "Man Down". 
  17. "Man Down - Interviews with Greg Davies & Rik Mayall - Channel 4 - Info - Press".
  18. "Doctor Who: Matt Lucas and Greg Davies join Christmas special".
  19. Wilson, Chris (15 June 2013).
  20. "Chris Blumer Interviews Greg Davies".
  21. Watt, Nicholas.
  22. Donald MacIntyre (22 May 2015).
  23. "Labour leadership contender Liz Kendall reveals her relationship with Inbetweeners star Greg Davies is over".