Griffith Hughes

naturiaethwr

Naturiaethwr ac awdur oedd y Parchedig Griffith Hughes (yn ei anterth rhwng 1707 - 1758) a sgwennodd The Natural History of Barbados sy'n cynnwys y disgrifiad ysgrifenedig cyntaf o'r grawnffrwyth. Canodd y biolegydd Swedaidd Carolus Linnaeus ei glodydd yn fawr, ond mynnodd eraill mai twyllwr ydoedd.

Griffith Hughes
Ganwyd1707 Edit this on Wikidata
Tywyn Edit this on Wikidata
Bu farw1758 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnaturiaethydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1707 Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
Map o waith llaw Griffith Hughes

Bywgraffiad golygu

Fe'i ganwyd yn 1707 yn fab i Edward a Bridget Hughes o Dywyn[1]. Aeth i Goleg Sant Ioan, Rhydychen ym 1729 a'i ordeinio yn Llundain yn 1732. Bu'n reithor yn Pennsylvania a Barbados. Nid oes sôn amdano ar ôl 1758.

Cyfeiriadau golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.