Rhaeadr yng Ngwlad yr Iâ yw Gullfoss ("Rhaeadr Aur"; Ynghylch y sain ymaIcelandic pronunciation ). Fe'i lleolir mewn canyon ar Afon Hvítá yn ne-orllewin y wlad.

Gullfoss
Mathrhaeadr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHvítá Edit this on Wikidata
LleoliadBiskupstungur Edit this on Wikidata
SirBláskógabyggð, Hrunamannahreppur Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
GerllawHvítá Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.3261°N 20.1211°W, 64.32733°N 20.1194°W Edit this on Wikidata
Arllwysiad140 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Gullfoss yng Ngwlad yr Iâ

Gullfoss yw un o atyiadau twristaidd mwyaf poblogaidd Gwlad yr Iâ. Mae'n rhan o gylchdaith enwog y 'Golden Ring' sy'n cynnwys y Þingvellir a geyser Haukadalur sy'n boblogaidd gyda thwristiaid.

Mae'r afon Hvítá lydan yn rhuthro i'r de a, tua cilomedr cyn y rhaeadr ystumio'n dynn i'r dde gan lifo lawr bwa tair-gris cyn cwympo'n sydyn mewn dau gymal (11 metre or 36 feet, a 21 metre or 69 feet) mewn i hollt 32 metre (105 ft) o ddyfnder. Mae'r hollt oddeutu 20 metre (66 ft) o led a 2.5 kilometre (1.6 mi) o hyd. Bydd, ar gyfartaledd, tua 140 cubic metre (4,900 cu ft) o ddŵr yn llifo lawr y rheadr yr eiliad yn yr haf a 80 cubic metre (2,800 cu ft) yr eiliad yn y gaeaf. Roedd y llif uchaf a nodwyd yno yn 2,000 cubic metre (71,000 cu ft) yr eiliad.

Yn ystod hanner cyntaf 20g ac am rai blynyddoedd yn hwyr yn yr 20g bu sôn am ddefnyddio Gullfoss er mwyn cynhyrchu trydan. Ond methiant bu hyn, yn rannol oherwydd diffyg arian. Gwerthwyd y rhaeadr maes o law i wladwriaeth Gwlad yr Iâ. Mae bellach wedi ei warchod.

Roedd Sigríður Tómasdóttir, merch un o berchnogion Gullfoss, Tómas Tómasson, yn benderfynnol o gadw'r rhaeadr, er iddi fygwth daflu ei hun mewn iddo fel hunanladdiad. Er bod nifer yn dal i gredu mai Sigríður achubodd y rhaeadr i'w warchod, dydy'r stori ddim yn wir. Ond mae cofeb carreg iddi uwchlaw'r rhaeadr sy'n dangos ei proffil.[1]

Gullfoss mewn diwylliant poblogaidd golygu

  • Mae Gullfoss yn ymddangos ar glawr albwm "Porcupine" gan y grŵp Saesnig, Echo and the Bunnymen.
  • Sonir am y rhaeadrau yn y nofelig, The Odd Saga of the American and a Curious Icelandic Flock;[2] yn ystod cinio noda Snorri ei hoffter o raeadr Gullfoss, tra bod Dr. Gustafsson yn ffafrio Glymur.
  • Ymddangosa Gullfoss yn fideo pop "Heaven" gan y band Live.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gullfoss Sigridur Tomasdottir". Nat.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-14. Cyrchwyd 2012-01-01. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "The Odd Saga of the American and a Curious Icelandic Flock". Google Books. Cyrchwyd 5 Mai 2012.


Oriel golygu