Gwäell resog
Sympetrum pedemontanum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Libellulidae |
Genws: | Sympetrum |
Rhywogaeth: | S. pedemontanum |
Enw deuenwol | |
Sympetrum pedemontanum (Mueller in Allioni, 1776) |
Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Gwäell resog (Lladin: Sympetrum pedemontanum; lluosog: Gweyll rhesog). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod yn Ewrop, ond nid yw'n or-hoff o uchder a mynyddoedd. Unwaith yn unig mae tystiolaeth ei fod wedi'i weld yng ngwledydd Prydain - a hynny yng Nghymru, ar yr 16-17 o Awst 1995.
Mae hyd ei adenydd yn 35-40mm a'i gynefin yw llwyni coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Mae'n cael ei seibiant ar frwynen, ar lan pwll llonydd, fel arfer. Ehediad gwan sydd ganddo, fodd bynnag.
Disgrifiad golygu
Fel y rhan fwyaf o weision neidr o fewn y genws Sympetrum mae ganddo abdomen coch. Mae'n gymharol hawdd ei adnabod oherwydd y rhesi du, llydan ar draws rhan allanol pob adenydd. Mae'n eitha tebyg i'r Gwäell ddu (Sympetrum danae) ac mae ganddo goesau du hefyd.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
Dolen allanol golygu
- Geiriadur enwau a thermau, Llên Natur, Cymdeithas Edward Llwyd.