Cyfres o bedwar o englynion penfyr gan y prifardd Aneirin Karadog yw'r gerdd Gweld y Gorwel. Lleolwyd y gerdd mewn 'rehab', sef canolfan sy'n trin clefion â phroblemau yn deillio o gamddefnyddio cyffuriau. Mae'r bardd yn ymdrin â'r themâu unigrwydd ac anobaith yn y ddau englyn cyntaf o dan effaith caethiwed y cyffuriau ond caiff hyn ei gyferbynnu ag awgrym o obaith a rhyddid erbyn yr englyn olaf.[1] Cyhoeddwyd yr englynion yn y gyfrol "O Annwn i Geltia" (2012) yn yr adran Annwn o dan yr is-adran "Cadwyn y colli nabod" (mae "Gweld y Gorwel" yn rhan o gasgliad o ddeg cerdd sy'n agor gyda'r gerdd "Machlud ar yr Wyddfa" ac yn cloi gyda'r gerdd "Gwawr ar yr Wyddfa").

Cynnwys golygu

Yn yr englyn cyntaf mae'r bardd wedi 'colli nabod' arno'i hunan, a'i deulu a'i ffrindiau efallai, o ganlyniad i'w gaethiwed i'r cyffuriau. Mae hi'n amlwg bod amser yn llusgo i'r claf ac mae'r oriau'n ddiddarfod. Yr unig sŵn a glywir yn y 'rehab' yw sŵn traed y cleifion eraill a'r staff. Ceir ymdeimlad o ddiflastod llwyr yn yr ail englyn a dywed y bardd mai 'bod' nid byw y mae ond mae awgrym o obaith yn llinell olaf yr englyn hwn gyda'r geiriau 'druggie'n dod o'i rigol'. Yn y trydydd englyn cyfeirir at effaith y cyffuriau ar y bardd yn gorfforol ac emosiynol ond wrth iddo feddwl am ei gariad mae ymdeimlad o obaith. Dywedir bod meddwl am ei gariad i'r claf yn debyg i'r haul yn gwawrio ar y gorwel a'r goleuni hwn yn symbol o obaith a rhyddid yng nghanol tywyllwch nos caethiwed y cyffuriau. Erbyn yr englyn olaf mae 'sŵn y byw' i'w glywed ac mae meddwl am ei gariad yn gwneud i'r bardd deimlo rhyddid a phrofi blas ar fywyd unwaith eto.

Mesur golygu

Mae'r englyn penfyr yn un o'r pedwar mesur ar hugain yn y canu caeth a cheir cynghanedd ym mhob llinell. Mae mesur yr englyn penfyr yn debyg i fesur yr englyn unodl union ond tair llinell sydd mewn englyn penfyr. Ceir toddaid byr neu baladr (sef y ddwy linell gyntaf) ac yna un llinell saith sillaf. Ceir deg sillaf yn y llinell gyntaf, chwe sillaf yn yr ail linell a saith sillaf yn y llinell olaf. Gall y llinell olaf ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen. Bydd beirdd fel arfer yn ysgrifennu englynion penfyr mewn cyfresi neu gadwyni o englynion fel y gwelir yn y gerdd hon.

Dolenni allanol golygu

Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog(BBC Bitesize)
Gweld y Gorwel(Fideo o boster Rhys Aneurin)
Aneirin Karadog yn darllen ei gerdd Gweld y Gorwel(Adnoddau Addysgol CBAC)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 19 Chwefror 2017.