Gwenfaen

santes Gymreig o'r 6ed ganrif (600- )

Santes o'r 6g oedd Gwenfaen.

Gwenfaen
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Man preswylLlanfair-yn-Neubwll, Llanfihangel-yn-Nhywyn, Rhoscolyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd550 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl4 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadPeulin Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad golygu

Dywedir bod Gwenfaen yn ferch i Pawl Hen a (Peulin) ac iddi sefydlu cymuned Gristnogol yn Rhoscolyn yn y 6g. Gŵr 'o Fanaw' oedd ei thad, a dywedir iddo symud o Reged (Cumbria) i Ynys Manaw ac mai yno y ganed Gwenfaen.[1]

Chwedl golygu

Ceir chwedl sy'n adrodd fel y cafodd Gwenfaen ei hymlid o'i chell gan y derwyddon ac iddi ddianc o'u gafael trwy ddringo craig ar yr arfordir ger Rhoscolyn. Daeth y llanw i mewn i rwystro'r derwyddon a chafodd Gwenfaen ei dwyn ymaith gan angylion.[2]

Cysegriadau golygu

Yr unig eglwys a gysylltir â'r santes hon yw eglwys plwyf Rhoscolyn ar Ynys Gybi, Ynys Môn. Ceir Ffynnon Wenfaen ger yr eglwys. Roedd ganddi enw am iacháu pobl yn dioddef o salwch meddwl. Cysgodir y ffynnon sanctaidd gan adeilad bychan gyda dwy sedd o garreg wrth y ffynnon ei hun. Arferai pobl daflu dwy garreg wen i'r ffynnon i gael eu gwella; arfer sy'n adlewyrchu ystyr amlwg yr enw 'Gwenfaen' (ond sylwer bod gwen yn gallu golygu 'sanctaidd' hefyd.[1] Ar un adeg roedd Eglwys Wenfaen yn lle o bwys ym mywyd crefyddol yr ynys. Roedd ganddi gapeli perthynol yn Llanfair-yn-Neubwll a Llanfihangel-yn-Nhywyn. Cofnodir 'Llanwenfaen' fel hen enw Rhoscolyn.[2]

Mae ei henw anghyffredin yn awgrymu tarddiad yng nghrefydd y Celtiaid efallai. Mae ei Gwylmabsant ar y 4ydd a'r 5ed o Dachwedd.

Gweler hefyd golygu

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. 2.0 2.1 SaintGwenfaen.org[dolen marw]

Dolenni allanol golygu