Gwenno Hywyn

awdures Gymreig

Awdures ac athrawes o Gymraes oedd Gwenno Hywyn (19491991). Ysgrifennodd nifer o nofelau poblogaidd ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys Tydi Bywyd yn Boen, a addaswyd i gyfres deledu yn 1990.

Gwenno Hywyn
Ganwyd1949 Edit this on Wikidata
Bu farw1991 Edit this on Wikidata
Man preswylPorthmadog, Pen-y-groes, Llundain, Llandwrog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTydi bywyd yn boen Edit this on Wikidata

Magwyd Gwenno yn Llundain nes oedd yn 13 oed ac yna aeth i fyw ym Mhorthmadog a Phen-y-groes. Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Bangor a gweithiodd fel athrawes ail-iaith am gyfnod. Ym 1982 rhoddodd y gorau i ddysgu er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu.[1]

Bywyd personol golygu

Roedd hi'n briod a'r athro a bardd John Hywyn (bu farw Ebrill 2024) ac roedd ganddynt ddau o blant, Rhys a Nia.[2] Roeddent yn byw yn Llandwrog. Mae cofeb iddi ym Mharc Glynllifon.

Anrhydeddau golygu

Enillodd wobr Tir na n-Og yn 1988 am 'Tydi Bywyd yn Boen!.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau gwreiddiol golygu

Addasiadau golygu

  • Daniel Defoe, Robinson Crusoe, Clasuron Mawr y Plant (Gwasg Mynydd Mawr, 1983)
  • Johanna Spyri, Heidi, Clasuron Mawr y Plant (Gwasg Gomer, 1986)
  • Jacqueline Wilson, Cari Wyn: Ditectif y Ganrif! (teitl gwreiddiol: Stevie Day: Supersleuth), Cyfres yr Arddegau (Gwasg Gwynedd, 1989)
  • Jacqueline Wilson, Cari Wyn: Cyfaill Cariadon (teitl gwreiddiol: Stevie Day: Lonely Hearts), Cyfres yr Arddegau (Gwasg Gwynedd, 1990)
  • Jacqueline Wilson, Cari Wyn: "Gendarme" o Fri (teitl gwreiddiol: Stevie Day: Rat Race), Cyfres yr Arddegau (Gwasg Gwynedd, 1991)
  • Maureen Potter, Cathreulig! (teitl gwreiddiol: The Theatre Cat), Llyfrau Cled (Gwasg Gwynedd, 1992)
  • Richard Dennant, Helynt y Fideo (teitl gwreiddiol: The Video Affair), Cyfres Corryn (Gwasg Gomer, 1983)
  • Penelope Lively, Dreigiau Bach Drwg (teitl gwreiddiol: Dragon Trouble), Llyfrau Lloerig (Gomer, 1989)
  • Harriet Castor, Pws Pwdin a'i Ffrindiau (teitl gwreiddiol: Fat Puss and Friends), Llyfrau Lloerig (Cyhoeddiadau Mei, 1988)
  • Harriet Castor, Pws Pwdin yn Cael Hwyl! (teitl gwreiddiol: Fat Puss on Wheels), Llyfrau Lloerig (Cyhoeddiadau Mei, 1990)

Cyfeiriadau golygu

  1.  Eco'r Wyddfa - Mai 1988. Eco'r Wyddfa (Mai 1988).
  2. "Y bardd John Hywyn wedi marw yn 76 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-04-02. Cyrchwyd 2024-04-02.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.