Gweriniaeth Islamaidd

Mae gweriniaeth Islamaidd, yn ei chyd-destun cyfoes, wedi dod i olygu sawl peth, weithiau'n wrthgyferbyniol i'w gilydd.

Gweriniaeth Islamaidd
Mathgweriniaeth, Theocrataeth, Islamic state Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn damcaniaeth, ym marn rhai arweinwyr crefyddol ym myd Islam, mae'n wladwriaeth dan reolaeth ffurf llywodraeth neilltuol a gefnogir fan rhai arweinwyr Muslim yn y Dwyrain Canol ac Affrica. Mae nifer o'r arweinwyr hyn yn ei gweld fel cyfaddawd rhwng y cysyniad o galiffiaeth Islamaidd bur ar y naill law, a chenedlaetholdeb fodern seciwlar a gweriniaetholdeb ar y llaw arall. Yn ôl y cysyniad hwn, mae'r weriniaeth Islamaidd yn seiledig ar reolau cyfraith a threfn traddodiadol a gynrychiolir gan y deddfau Sharia, yn hytrach nag ar awdurdod brenhiniaeth Islamaidd fel ag a geir mewn rhai gwledydd fel Sawdi Arabia ar hyn o bryd; Iran yw'r model i nifer o bobl sy'n credu mewn hynny. Ond ceir enghreifftiau eraill lle defnyddir yr enw 'gweriniaeth Islamaidd' fel symbol o hunaniaeth diwylliannol, heb fod yn wnelo â syniadau theocrataidd, fel yn achos Pacistan, a fabywsiadodd y teitl dan ei chyfansoddiad newydd yn 1956.

Gweler hefyd golygu