Gwgon Brydydd

bardd

Un o Feirdd y Tywysogion a ganai ar ddechrau'r 13g oedd Gwgon Brydydd (fl. tua 1200-1220).[1]

Gwgon Brydydd
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1240 Edit this on Wikidata
PlantEinion ap Gwgon Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ni wyddys dim am Wgon ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn yr unig gerdd o'i waith i oroesi, sy'n fawl i Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr). Awgrymodd yr ysgolhaig J. Lloyd-Jones ei fod yn dad i Einion ap Gwgon, un arall o Feirdd y Tywysogion a ganodd i Lywelyn Fawr. Mae'r teitl 'prydydd' yn dangos fod Gwgon yn mwynhau statws uchel yng nghyfundrefn y beirdd ac yn fardd llys cydnabyddedig.[1]

Tadogir 'Araith Wgon', un o'r Areithiau Pros, ar fardd o'r enw Gwgon y dywedir ei fod yn byw yn ardal Llanfair-yng-Nghaereinion ym Mhowys yn amser Dafydd ab Owain Gwynedd, ond ni ellir rhoi llawer o bwys ar hynny.[1]

Cerdd golygu

Mae'r unig gerdd gan Wgon sydd ar glawr i'w cael mewn llawysgrifau sy'n dyddio o ganol yr 16g ond sy'n deillio o lawysgrif(au) coll cynharach. Moliant i Lywelyn fel arweinwr milwrol yw'r gerdd, ar ffurf pum Englyn Unodl Union rheolaidd. Yr unig gyfeiriad penodol yw hwnnw at gyrch gan Lywelyn ar Langollen; mae hyn yn awgrymu dyddio'r gerdd i'r cyfnod 1211-1214 pan fu elyniaeth rhwng Llywelyn a Madog ap Gruffudd, tywysog Powys Fadog.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Gwgon Brydydd', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Gwgon Brydydd'.



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch