Gwyn Vaughan Jones

Actor o Gymro

Actor, canwr, awdur a chyfarwyddwr yw Gwyn Vaughan Jones (ganwyd 8 Gorffennaf 1958).[1]

Gwyn Vaughan Jones
Ganwyd8 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Mae'n hannu o Flaenau Ffestiniog ac aeth i'r ysgol gynradd yno ac yna Ysgol y Moelwyn.[2]

Gyrfa golygu

Graddiodd o Coleg Cerdd a Drama Caerdydd a cychwynnodd weithio i Cwmni Theatr Cymru. Mae wedi bod yn gweithio'n broffesiynol ers 1980.

Yn yr 1980au cynnar bu'n aelod o'r grŵp actio, canu a chomedi Hapnod gyda Ann Llwyd, Cefin Roberts a Rhian Roberts. Cafodd y grŵp sawl cyfres ar S4C gan ryddhau record o'i cerddoriaeth.

Mae wedi ymddangos mewn sawl ffilm, yn cynnwys Hedd Wyn a Solomon a Gaenor. Mae wedi chwarae rhan 'Arthur' ar y gyfres Rownd a Rownd ers 2007.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwyn Vaughan Jones. Ballet Cymru. Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2018.
  2. Holi seren Rownd a Rownd .

Dolenni allanol golygu