Gyrn Ddu

bryn (522.1m) yng Ngwynedd

Bryn ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw Gyrn Ddu (hefyd: Gurn Ddu ar y map OS). Saif i'r dwyrain o bentref Trefor ac i'r gogledd-ddwyrain o Lanaelhaearn. Mae copa arall ychydig yn is, sef Gyrn Goch, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Gyrn Ddu; cyfeiriad grid SH401467. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 137metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Gyrn Ddu
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr522 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9945°N 4.3837°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4011846788 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd386 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaGyrn Ddu Edit this on Wikidata
Map

Ceir carneddi o Oes yr Efydd ac olion tai o Oes yr Haearn ar y mynydd. Ar ei lechweddau dwyreiniol, mae olion nifer o hen chwareli ithfaen.

Mae Afon Erch yn tarddu ar lethrau deheuol Gyrn Ddu ac mae tarddle Afon Hen i'w gael yng Nghors-y-ddalfa rhwng Gyrn Ddu a Bwlch Mawr, i'r dwyrain.

Y copa golygu

 
Chwith i dde: Gyrn Goch, Gyrn Ddu a Bwlch Mawr

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd) a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 522m (1713tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu