Haearn gwrymiog

math o ddefnydd adeiladu

Defnydd adeiladu yw haearn gwrymiog neu haearn rhychog. Fel arfer mae'n cynnwys dalennau o ddur meddal sydd wedi'u galfaneiddio dip poeth, yna eu rholio yn oer i gynhyrchu patrwm rhychog llinol. Er gwaethaf yr enw, ac eithrio'r enghreifftiau cynharaf, nid haearn yw'r defnydd a ddefnyddir, ond dur.

Haearn gwrymiog
Enghraifft o'r canlynoldefnydd adeiladu Edit this on Wikidata
Mathgalvanized sheet steel Edit this on Wikidata
Deunyddmetel dalennog Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1829 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r rhychau yn cynyddu cryfder ac anhyblygedd y dalennau i'r cyfeiriad sy'n rhedeg ar hyd y rhychau. Fel rheol mae dalennau'n cael eu cynhyrchu fel petryalau gyda'r ochrau hir yn gryf a'r ochrau byr yn hyblyg.

Dyfeisiwyd haearn gwrymiog ym Mhrydain yn y 1820au gan y pensaer a pheiriannydd Henry Robinson Palmer. Fe'i gwnaed yn wreiddiol o haearn gyr. Profodd y defnydd i fod yn ysgafn, yn gryf, yn gwrthsefyll cyrydiad, ac yn hawdd ei gludo. Roedd yn addas ar gyfer strwythurau parod a gwaith byrfyfyr gan weithwyr lled-fedrus. Mae'r defnydd bob amser wedi cael ei ddefnyddio'n ledled y byd mewn adeiladau gwledig a milwrol fel siediau a thanciau storio.

Yn raddol disodlwyd haearn gyr gan ddur meddal o tua'r 1890au, ond ni newidiodd yr enw. Yn fwy diweddar, mae dalennau galfanedig â rhychiadau syml wedi cael eu disodli'n raddol gan haenau amddiffynnol mwy datblygedig a phroffiliau mwy cymhleth.

Neuadd eglwys yn Glenorchy, Argyll a Bute, yr Alban, wedi'i hadeiladu o haearn gwrymiog

Gweler hefyd golygu