Cân werin Iddewig draddodiadol yn yr Hebraeg yw Hafa Nagila (Hebraeg:הבה נגילה; bydded i ni orfoleddu) a genir erbyn hyn fel arfer wrth ddathlu Bar Mitzvah/Bat Mitzvah a phriodasau Iddewig.

Perfformiad offerynnol o Hafa Nagila

Tarddiad golygu

Daw'r alaw o gân ddawns werin o Bukovina. Defnyddia'r modd Phrygiaidd a ddefnyddir yn aml mewn cerddoriaeth Romaniaidd. Cyfansoddwyd y geiriau a geir heddiw gan Abraham Zevi Idelsohn yn 1918 er mwyn dathlu buddugoliaeth Prydain ym Mhalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ffynhonnell y geiriau yw salm 118 yn y Beibl Hebreaidd.