Haiku

ffurf o farddoniaeth Siapanëeg

Mae'r haiku yn ffurf fydryddol Siapanaeg tebyg i'r englyn Cymraeg a'r epigram Groeg. Fel yr englyn mae'r haiku yn gerdd fer iawn. Y ffurf safonol yw tair llinell o 5, 7 a 5 sillaf. Mae gan haiku statws arbennig yn hanes llenyddiaeth Siapan.

Hanes golygu

Mae gwreiddiau'r haiku i'w canfod yn yr haikai-renga, cerddi o hyd amrywiol a oedd yn boblogaidd yn Siapan yn y cyfnod Muromachi (1338-1570). Gelwid pennill agoriadol cerddi haikai-renga yn haikai. Yn raddol fe ddatblygodd yn uned ar wahân a chafodd ei gydnabod fel ffurf fydryddol ynddo'i hun. Yn yr 17g tyfodd i fod yn ffurf lenyddol hyblyg a soffistigedig yn nwylo Matsuo Bashō a'i gyfoeswyr. Rhoddwyd yr enw haiku ar y cerddi hyn gan y bardd Shiki Masoaka yn y cyfnod Meiji (1868-1912). Erys yr haiku yn boblogaidd iawn yn Siapan ac amcangyfrir bod o gwmpas 10 miliwn o bobl yn cyfansoddi cerddi haiku heddiw gyda nifer ohonynt yn aelodau o gymdeithasau llenyddol ar gyfer y grefft (kukai) lle mae pobl yn cwrdd i gyfansoddi a darllen haiku.

Hanfodion haiku golygu

Mae'r gerdd enwog am lyffant yn neidio i mewn i bwll gan Bashō yn enghraifft ragorol o'r haiku:

Furu ike ya (Hen bwll)
kawazu tobi-komu (llyffant yn neidio i mewn:)
mizu no oto (sŵn dŵr!)

Gwelir yn y gerdd tair prif hanfod haiku. Mae ei ffurf (teikei) yn rheolaidd gyda 17 sillaf yn y patrwm 5-7-5. Caniateir amrywiadau ar y teikei arferol, ac mae rhai o'r cerddi haiku gorau yn fyrrach o sillaf neu ddwy neu'n rhedeg i hyd at 20 sillaf. Yn ogystal mae'r gerdd yn cynnwys "gair tymhorol" (kigo), sef kawazu (llyffant), sy'n dynodi'r gwanwyn. Yn olaf ceir ynddi y geiryn kireji, yr ya ar ddiwedd y llinell gyntaf, sydd yn dwyn y pwyslais er nad oes iddo ystyr ynddo ei hun. Y kireji mwyaf cyffredin yw ya, kana, keri, ran, tsu, nu, zu, ikani, ka a'r terfyniad ansoddeiriol shi.

Mewn ieithoedd eraill golygu

Mae'r gair haiku yn cael ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio cerddi o'r un ffurf â Haiku Siapaneg, sef tair llinell o 5, 7 a 5 sillaf, ond mewn ieithoedd eraill.