Halasana (Yr Aradr)

asana mewn ioga hatha

Mae Halasana (Sansgrit: हलासन; IAST: halāsana) neu'r Aradr[1] yn asana gwrthdro mewn ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff. Mae ei amrywiadau'n cynnwys Karnapidasana gyda'r pengliniau wrth y clustiau, a Supta Konasana gyda'r coesau ar led.

Halasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas gwrthdro Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad golygu

 
Y gwrw iechyd a harddwch Marguerite Agniel mewn osgo Aradr, c. 1928

Daw'r enw o'r Sansgrit हला hala, "aradr" ac आसन āsana, "osgo neu siap y corff".[2] Disgrifir a darlunnir yr ystum yn y gyfrol Sritattvanidhi yn y 19g fel Lāṇgalāsana, sydd hefyd yn golygu ystum yr aradr yn Sansgrit.[3]

Nid yw Karnapidasana i'w gael yn y testunau ioga hatha canoloesol. Fe’i disgrifir yn annibynnol yn y Llyfr Yoga Darluniadol Cyflawn (1960) gan Swami Vishnudevananda yn nhraddodiad Ioga Sivananda, a chan BKS Iyengar yn ei Light on Yoga (1966), gan awgrymu y gallai fod gan yr asana hwn wreiddiau hŷn.[4][5] Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit karṇa (कर्ण) sy'n golygu "clustiau", pīḍ (पीड्) sy'n golygu "i wasgu", ac âsana (आसन) sy'n golygu "osgon neu siap" (y corff).[6]

Mae'r ystum yn datblygu o asana arall, sef Sarvangasana (sefyll ar y sgwyddau), gan ostwng y cefn ychydig ar gyfer cydbwysedd, a symud y breichiau a'r coesau dros y pen nes bod bysedd y traed estynedig yn cyffwrdd â'r llawr a blaenau'r bysedd, mewn amrywiad paratoadol o'r ystum. Yna gellir symud y breichiau i gynnal y cefn i safle mwy fertigol, gan greu ail amrywiad o'r ystum. Yn olaf, gellir ymestyn y breichiau ar y llawr, i ffwrdd o'r traed, gan gyrraedd y siap terfynol, sef ffurf aradr draddodiadol.[7][8][9][10]

Amrywiadau golygu

 
Karnapidasana, amrywiad gyda'r pengliniau wedi'u plygu, a safle breichiau yn wahanol

Mae'r pengliniau wedi'u plygu'n agos at y pen, gyda'r pengliniau'n gafael yn y breichiau yn Karnapidasana (y Clust-wasgwr) neu Raja Halasana (yr Aradr Brenhinol).[11]

Yn Parsva Halasana (Aradr i'r ochr) mae'r corff yn fertigol, y torso wedi'i throelli i un ochr, a'r coesau allan yn syth, gyda'r traed yn cyffwrdd â'r llawr (i'r ochr honno).[12]

Mae gan Supta Konasana (yr Ongl Gorweddol) y coesau ar led, bysedd y traed ar y llawr;[13] efallai y bydd blaenau'r bysedd yn gafael ym modiau'r traed.[12]

Gellir perfformio'r holl amrywiadau hyn fel rhan o gylchred sy'n cychwyn o Sarvangasana (Ysgwydd-sefyll).[12]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. YJ Editors (28 Awst 2007). "Plough Pose". Yoga Journal.
  2. Sivananda, Swami (June 1985). Health and hatha yoga. Divine Life Society. t. 128. ISBN 978-0-949027-03-0.
  3. Sjoman 1999, t. 72.
  4. Iyengar 1979, tt. 216-219.
  5. Sjoman 1999, tt. 88, 92.
  6. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  7. Iyengar 1979.
  8. Halasana. February 1983. p. 7. ISSN 0191-0965. https://books.google.com/books?id=8usDAAAAMBAJ&pg=PA7.
  9. Robin, Mel (May 2002). A Physiological Handbook for Teachers of Yogasana. Wheatmark. t. 516. ISBN 978-1-58736-033-6.
  10. Robin, Mel (2009). A Handbook for Yogasana Teachers: The Incorporation of Neuroscience, Physiology, and Anatomy Into the Practice. Wheatmark. t. 835. ISBN 978-1-58736-708-3.
  11. Mehta 1990, tt. 111–115.
  12. 12.0 12.1 12.2 Mehta 1990.
  13. "Supta Konasana". Yogapedia. Cyrchwyd 8 Chwefror 2019.

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu