Mewn athroniaeth, defnyddir y cysyniad Groegaidd o eudaimonia i gyfeirio at hapusrwydd, a olygir y bywyd da, llewyrchus, yn hytrach nag emosiwn o reidrwydd.

Y ffoto cyntaf yn y byd o person yn gwenu. Abertawe, 1853
Mynach o Tibet yn gwenu

Mewn seicoleg, mae hapusrwydd yn stad feddyliol neu emosiynol o les unigolyn a ellir ei ddiffinio gan, ymysg eraill, emosiynau cadarnhaol neu ddymunol sy'n amrywio o fodlonrwydd i lawenydd dwys.[1] Gall stadau meddyliol hapus adlewyrchu rhagfarnau gan berson am ei les cyffredinol.[2]

Ers yr 1960au, cynhaliwyd ymchwil ar hapusrwydd mewn sawl maes gwyddonol, yn cynnwys seicoleg gymdeithasol, clinigol, ymchwil meddygol ac economeg hapusrwydd.

Diffiniad golygu

Mae hapusrwydd yn gysyniad niwlog. Mae rhai cysyniadau yn cynnys llesiant, ansawdd bywyd, llwyddiant, a bodlonrwydd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "happiness". Wolfram Alpha.
  2. Anand, P (2016). Happiness Explained. Oxford University Press.
  3. Graham, Michael C. (2014). Facts of Life: ten issues of contentment. Outskirts Press. tt. 6–10. ISBN 978-1-4787-2259-5.