Harrison Birtwistle

cyfansoddwr a aned yn 1934

Cyfansoddwr Seisnig oedd Syr Harrison Birtwistle (15 Gorffennaf 193418 Ebrill 2022). Mae'n arbennig o adnabyddus am ei operâu. Gall ei gerddoriaeth gain fod yn anghyseinedd ac yn heriol ond mae hefyd yn cael effaith emosiynol bwerus.[1]

Harrison Birtwistle
Ganwyd15 Gorffennaf 1934 Edit this on Wikidata
Accrington Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 2022 Edit this on Wikidata
Mere Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, athro cerdd, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullopera Edit this on Wikidata
Gwobr/au‎chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr Grawemeyer, Wihuri Sibelius Prize, Ernst von Siemens Music Prize, Grawemeyer Award for Music Composition, Cydymaith Anrhydeddus, Marchog Faglor, Royal Philharmonic Society Music Awards Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn nhref Accrington, Swydd Gaerhirfryn. Ym 1952 enillodd ysgoloriaeth fel clarinetydd i Goleg Cerdd Brenhinol Manceinion, ble ffurfiodd grŵp a ymddiddorai mewn cerddoriaeth gyfoes gyda Peter Maxwell Davies, Alexander Goehr, Elgar Howarth a John Ogdon. Wedyn cwblhaodd ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol gyda'r Magnelwyr Brenhinol fel aelod o seindorf filwrol. Roedd yn gyfarwyddwr cerddoriaeth yn Ysgol Cranbourne Chase, Dorset, o 1962 i 1965, cyn ennill Cymrodoriaeth Harkness i astudio ym Mhrifysgol Princeton, Unol Daleithiau America. O 1975 hyd 1983 roedd yn gyfarwyddwr cerddoriaeth i'r Theatr Genedlaethol, Llundain. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1988.

Gweithiau cerddorol golygu

Opera golygu

  • Punch and Judy (1966–7)
  • Down by the Greenwood Side (1968–9)
  • The Mask of Orpheus (1973–84)
  • Yan Tan Tethera (1883–4)
  • Gawain (1990)
  • The Second Mrs Kong (1993–4)
  • The Last Supper (2000)
  • The Io Passion (2003)
  • The Minotaur (2008)
  • The Corridor (2009)
  • The Cure (2014–15)

Cerddorfaol golygu

  • The Triumph of Time (1971–2)
  • Silbury Air (1976–7)
  • Panic (1995)
  • Responses (2013–14)
  • Deep Time (2016)

Cyfeiriadau golygu

  1. Allen, David (18 April 2022). "Harrison Birtwistle, Fiercely Modernist Composer, Dies at 87". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Ebrill 2022.