Heintiad y llwybr wrinol

Haint yw heintiad y llwybr wrinol sy'n effeithio ar ran o'r llwybr wrinol.[1] Pan mae'n effeithio ar y llwybr wrinol isaf, caiff ei adnabod fel llid y bledren (cystitis) a phan fo'n effeithio ar y llwybr wrinol uchaf caiff ei adnabod fel haint yr arennau (pyelonephritis).[2] Mae symptomau o haint y llwbr wrinol isaf yn cynnwys poen wrth ollwng dŵr, gollwng dŵr yn aml, a theimlo'r angen i ollwng dŵr yn aml, a theimlo'r angen i ollwng dŵr er bod y bledren yn wag. Mae symptomau o haint yr arennau yn cynnwys gwres a phoen abdomenol fel arfer yn ogystal â symptomau heintiad y lwybr wrinol isaf. Gall yr wrin yn ymddangos yn waedlyd, ond yn anaml. Mewn pobl ifanc iawn a hen iawn, gall y symptomau fod yn annelwig.[3]

Yr achos mwyaf cyffredin o haint yw Escherichia coli, er gall bacteria arall neu gall fod o achos ffwng, ond yn anaml. Mae ffactorau risg yn cynnwys anatomi benywaidd, rhyw, clefyd y siwgr, gordewdra, a hanes teuluol. Er bod rhyw yn ffactor risg, ni chaiff heintiadau y llwybr wrinol eu categoreiddio fel haint a drosglwyddir yn rhywiol.[4] Mae haint yr arennau, os yw'n digwydd, fel arfer yn dilyn llid y bledren ond gall hefyd fod o ganlyniad o heintiad a gludir gan waed.[5] Gall diagnosis mewn menywod ifanc a iach fod yn seiliedig ar symptomau'n unig.[6] Yn y rheiny sydd â symptomau annelwig, gall diagnosis fod yn anodd oherwydd gall bacteria fod yn bresennol heb fod yno haint.[7] .

Mewn achosion nad ydynt yn gymhleth, caiff heintiadau'r llwybr wrinol eu trin â chwrs byr o wrthfiotigau megis nitroffwrantoin neu trimethoprim/sulfamethoxazole. Mae ymwerthedd i'r nifer o wrthfiotigau a ddefnyddir i drin y cyflwr hwn yn cynyddu. Mewn achosion cymhleth, mae'n bosibl y bydd angen cwrs hirach neu wrthfiotigau mewnwythiennol. Os nad yw symptomau'n gwella mewn dau neu dri diwrnod, mae'n bosibl y bydd angen rhagor o brofion diagnostig.[8] Gall Ffenasopyridin helpu â symtpomau. Yn y rheiny sydd â bacteria neu gelloedd gwaed gwyn yn eu wrin, ond nid oes ganddynt symptomau, yn gyffredinol nid oes angen gwrthfiotigau,[9] oni bai eu bod yn feichiog.[10] Yn y rheiny sy'n cael eu heintio'n aml, gellir cymryd cwrs byr o wrthfiotigau cyn gynted â bo symptomau'n dechrau, neu gellir defnyddio cwrs hir o wrthfiotigau fel cam ataliol.[11]

Mae oddeutu 150 miliwn o bobl yn datblygu heintiad y llwybr wrinol bob blwyddyn.[12] Maent yn fwy cyffredin mewn menywod na dynion. Mewn menywod, nhw yw'r ffurf mwyaf cyffredin o heintiad bacterol.[13] Mae hyd at 10% o fenywod yn cael heintiad y llwybr wrinol mewn blwyddyn, a 50% o fenywod yn cael o leiaf un heintiad yn eu bywyd. Maent yn digwydd amlaf rhwng 16 a 35 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Urinary Tract Infection". CDC. 17 Ebrill 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2016. Cyrchwyd 9 Chwefror 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Lane, DR; Takhar, SS (Awst 2011). "Diagnosis and management of urinary tract infection and pyelonephritis.". Emergency medicine clinics of North America 29 (3): 539–52. doi:10.1016/j.emc.2011.04.001. PMID 21782073. https://archive.org/details/sim_emergency-medicine-clinics-of-north-america_2011-08_29_3/page/539.
  3. Woodford, HJ; George, J (February 2011). "Diagnosis and management of urinary infections in older people". Clinical Medicine (London) 11 (1): 80–3. doi:10.7861/clinmedicine.11-1-80. PMID 21404794.
  4. Study Guide for Pathophysiology (arg. 5). Elsevier Health Sciences. 2013. t. 272. ISBN 9780323293181. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-16. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Introduction to Medical-Surgical Nursing. Elsevier Health Sciences. 2015. t. 909. ISBN 9781455776412. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-16. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Nicolle LE (2008). "Uncomplicated urinary tract infection in adults including uncomplicated pyelonephritis". Urol Clin North Am 35 (1): 1–12, v. doi:10.1016/j.ucl.2007.09.004. PMID 18061019.
  7. Jarvis, William R. (2007). Bennett & Brachman's hospital infections (arg. 5th). Philadelphia: Wolters Kluwer Health/Lippincott Williams & Wilkins. t. 474. ISBN 9780781763837. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-16. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Diagnosis and treatment of acute pyelonephritis in women.". American Family Physician 84 (5): 519–26. 2011-09-01. PMID 21888302.
  9. Ferroni, M; Taylor, AK (Tachwedd 2015). "Asymptomatic Bacteriuria in Noncatheterized Adults.". The Urologic clinics of North America 42 (4): 537–45. doi:10.1016/j.ucl.2015.07.003. PMID 26475950.
  10. Glaser, AP; Schaeffer, AJ (November 2015). "Urinary Tract Infection and Bacteriuria in Pregnancy.". The Urologic clinics of North America 42 (4): 547–60. doi:10.1016/j.ucl.2015.05.004. PMID 26475951.
  11. "Recurrent uncomplicated cystitis in women: allowing patients to self-initiate antibiotic therapy.". Rev Prescire 23 (146): 47–9. Tachwedd 2013. PMID 24669389.
  12. Flores-Mireles, AL; Walker, JN; Caparon, M; Hultgren, SJ (May 2015). "Urinary tract infections: epidemiology, mechanisms of infection and treatment options.". Nature Reviews. Microbiology 13 (5): 269–84. doi:10.1038/nrmicro3432. PMC 4457377. PMID 25853778. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4457377.
  13. Colgan, R; Williams, M (2011-10-01). "Diagnosis and treatment of acute uncomplicated cystitis.". American Family Physician 84 (7): 771–6. PMID 22010614.