Awdures o Ymerodraeth Rwsia ac Unol Daleithiau America oedd Helena Blavatsky (neu Helena Petrovna Blavatsky; 31 Gorffennaf 1831 - 26 Ebrill 1891) a oedd yn athronydd, newyddiadurwr ac ocwltydd. Fe'i ganed yn Dnipro, 4ydd dinas fwyaf Yr Wcráin a bu farw yn Llundain o'r ffliw.[1][2][3][4][5]

Helena Blavatsky
GanwydЕлена Петровна Ган Edit this on Wikidata
31 Gorffennaf 1831 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Dnipro Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ebrill 1891 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, ocwltydd, golygydd, theosophydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Secret Doctrine Edit this on Wikidata
TadPeter Hahn Edit this on Wikidata
MamElena Andreyevna Fadeyeva Edit this on Wikidata
Gwobr/auSubba Row Medal Edit this on Wikidata

Yn 1875 cyd-sefydlodd y Gymdeithas Theosoffi (the Theosophical Society) yn Ninas Efrog Newydd. Roedd ganddi ddilynwyr ledled y byd, ac adnabyddwyd hi fel prif arweinydd y grefydd esoterig Theosoffi haniaethol, yn ei chyfnod.

Fe'i ganed i deulu aristocrataidd Rwsia-Almaenig yn Yekaterinoslav (Dnipro heddiw), a oedd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia, teithiodd Blavatsky yn eang o amgylch yr Ymerodraeth Rwsia fel plentyn. Yn hunan-addysgiadol yn bennaf, datblygodd ddiddordeb mewn esoteriaeth Gorllewinol yn ystod ei harddegau. Honodd, yn ddiweddarach, iddi fynd ar gyfres o deithiau yn 1849 lle'r ymwelodd ag Ewrop, America, ac India, gan honni iddi ddod ar draws grŵp o bobl ysbrydol, "Meistr yr Hen Ddoethineb" yn Shigatse, Tibet, lle buont yn ei hyfforddi i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o synthesis crefydd, athroniaeth a gwyddoniaeth. Mae beirniaid cyfoes a rhai bywgraffwyr diweddarach wedi dadlau bod rhai (neu bob un) o'r ymweliadau tramor hyn yn ffug, a'i bod wedi treulio'r cyfnod hwn yn Ewrop. [6][7]

Erbyn dechrau'r 1870au, roedd Blavatsky yn ymwneud â'r mudiad Ysbrydolrwydd (Spiritualism). Er ei bod yn amddiffyn bodolaeth ffenomenau Ysbrydolrwydd, dadleuodd yn erbyn y syniad fel prif ffrwd, mai ysbrydion y meirw oedd yr endidau y cysylltwyd â hwy. Ymfudodd i'r i Unol Daleithiau America yn 1873, a daeth yn gyfaill i Henry Steel Olcott a daeth i lygad y cyhoedd fel cyfryngydd i ysbrydion, sylw a oedd yn cynnwys cyhuddo rhai pob o dwyll.

Yn 1877 cyhoeddodd Isis Unveiled, llyfr a oedd yn amlinellu ei barn ar theosoffi.

India golygu

Disgrifiodd Blavatsky Theosophy fel "synthesis o wyddoniaeth, crefydd ac athroniaeth", gan ddatgan fod Theoso yn adfywiad o'r "Doethineb Hynafol", sy'n tanseilio holl grefyddau'r byd. Yn 1880 symudodd hi ac Olcott i India, lle cysylltwyd y Gymdeithas â'r Arya Samaj, mudiad diwygio Hindŵaeth. Yr un flwyddyn, yn Ceylon, honir mai hi ac Olcott oedd y bobl gyntaf o'r Unol Daleithiau i drosi'n ffurfiol i Fwdhaeth.

Dirywiodd ei hiechyd yn 1885 a dychwelodd i Ewrop, gan sefydlu'r Blavatsky Lodge yn Llundain. Yno y cyhoeddodd The Secret Doctrine, sylwebaeth ar yr hyn a honnodd hi oedd hen lawysgrifau Tibetaidd, yn ogystal â dau lyfr arall, The Key to Theosophy a The Voice of the Silence. Bu farw o'r ffliw.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Subba Row Medal (1888)[8] .

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11892330s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Helene_Petrovna_Blavatsky. https://www.bartleby.com/library/bios/index2.html.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11892330s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo, Efrog Newydd: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103 https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  4. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11892330s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Jelena Petrovna Blavatskij". "Helena Blavatsky". https://www.bartleby.com/library/bios/index2.html.
  5. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11892330s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  7. Anrhydeddau: "Subba Row Medal".
  8. "Subba Row Medal".