Helmlys mannog

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Helmlys mannog
Frullania fragilifolia
Frullania fragilifolia
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Porellales
Teulu: Frullaniaceae
Genws: Frullania
Rhywogaeth: F. fragilifolia
Enw deuenwol
Frullania fragilifolia

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Helmlys mannog (enw gwyddonol: Frullania fragilifolia; enw Saesneg: spotty scalewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod, yn eitha cyffredin, yng Nghymru a'r Alban ac fe'i ceir hefyd yn Iwerddon a Lloegr.

Disgrifiad golygu

Fel yr Helmlys bychan, mae'n blanhigyn tywyll, bron yn ddu ei liw, gydag arogl cryf. Mae'r coesynnau yn 0.6–1.2 mm o led a'r dail yn 0.5 mm o led a 0.8 mm o hyd.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "llysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Helmlys mannog gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.