Helo Bobol

Rhaglen radio Cymraeg yn yr 1970/1980au

Rhaglen radio ddyddiol o'r 1970au ac 1980au oedd Helo Bobol ac, heblaw am y newyddion, hon oedd y rhaglen gyntaf i'w chlywed ar BBC Radio Cymru pan lansiwyd yr orsaf ar 3 Ionawr 1977. Cychwynnodd BBC Radio Cymru am 6.45am y bore hwnnw, gyda bwletin newyddion: yna, darlledwyd Helo Bobol rhwng 7 a 9, gyda bwletinau newyddion o fewn y rhaglen am 7.45 ac 8.45.[1]

Helo Bobol
Enghraifft o'r canlynolrhaglen radio Edit this on Wikidata
CyhoeddwrBBC Cymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd3 Ionawr 1977 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1989 Edit this on Wikidata

Roedd Helo Bobol yn cael ei darlledu bob bore'r wythnos a'r cyflwynydd oedd Hywel Gwynfryn. Roedd y rhaglen yn gymysgedd o gerddoriaeth a chyfweliadau ac ambell bwt o gyngor.[2] Thema agoriadol y rhaglen oedd "Pinocchio's Picnic", cerddoriaeth lyfrgell gan gwmni KPM (Music Pictorial gan James Clarke, KPM 1096).[3][4]

Dywedai Gwynfryn mai ystyr y BBC oedd 'Y Bobol Biau'r Cyfrwng' a bwriad y rhaglen oedd apelio at y bobl hynny ar draws Cymru. Daeth y rhaglen yn adnabyddus am ofyn i wrandawyr fathu termau Cymraeg newydd.[5]

Yn ddiweddarach, estynnwyd oriau Helo Bobol i gwmpasu'r hyn a enwyd gan Gwynfryn yn 'Bwrdd Brecwast Cynnar' (BBC) a'r 'Bwrdd Brecwast Hwyr'.[angen ffynhonnell] Daeth y rhaglen i ben yn 1989.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Radio Cymru yn 30 oed. BBC Cymru. Adalwyd ar 6 Chwefror 2018.
  2.  1977 Helo Bobol. BBC Cymru. Adalwyd ar 6 Chwefror 2018.
  3.  Discogs - James Clarke – Music Pictorial. Discogs.com. Adalwyd ar 29 Mai 2022.
  4.  Helo Bobol, 5ed Rhagfyr 1980. Adalwyd ar 29 Mai 2022.
  5. Bathu geiriau yn y Gymraeg , BBC Cymru, 17 Mai 2017. Cyrchwyd ar 6 Chwefror 2018.
  6.  Dyma 1989. BBC Cymru. Adalwyd ar 6 Chwefror 2018.

Dolenni allanol golygu