Hen orsaf reilffordd Elizabeth

Gorsaf reilffordd ar Reilffordd Ganolog Jersey Newydd oedd Hen orsaf reilffordd Elizabeth, yn ninas Elizabeth, Jersey Newydd. Caewyd yr orsaf ym mis Awst, 1978, a phrynwyd yr adeilad gan y ddinas yn 1990au.

Hen orsaf reilffordd Elizabeth
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirElizabeth, New Jersey Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau40.6678°N 74.215°W Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth yr Adfywiad Romanésg Edit this on Wikidata
Statws treftadaethlleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd yr orsaf rhwng 1891 a 1893, yn costio $38,680. Bruce Price oedd y pensaer. Defnyddiwyd yr orsaf gan drenau’r Reilffordd Ganolog Jersey Newydd, Rheilffordd Reading a Rheilffordd Baltimore ac Ohio.

Gwariwyd dros $800,000 gan y ddinas i atgyweiro’r adeilad, ac erbyn hyn maent wedi llogi’r adeilad i fod yn fwyty i dal dros 100 cwsmer.[1]


Cyfeiriadau golygu