Hringvegur, Route 1 (Gwlad yr Iâ)

Cylchffordd Gwlad yr Iâ


Yr Hringvegur yw'r cylchffordd genedlaethol o gwmpas ynys Gwlad yr Iâ. Fe'i geliwr hefyd yn Þjóðvegur 1 yn Islandeg ac yn aml yn Route 1 neu'r Ring Road yn Saesneg. Hyd llawn y ffordd yw 1,332 kilometre (828 mi) ac mae'n cysylltu rhannau pellennig y wlad gyda'i gilydd. Mae rhai o atyniadau mwyaf Gwlad yr Iâ ar hyd llwybr y gylchffordd gan gynnwys rhaeadrau Seljalandsfoss a Skógafoss rhewlifau Dyrhólaey a Jökulsárlón.[1]

Hringvegur, Route 1
Mathffordd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolroads in Iceland Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Hyd1,336 cilometr Edit this on Wikidata
Cylchffordd Gwlad yr Iâ a rhai o'r trefi a gysylltir: (1) Reykjavík; (2) Borgarnes; (3) Blönduós; (4) Akureyri; (5) Egilsstaðir; (6) Höfn; (7) Selfoss

Cwblhawyd y ffordd yn 1974 i gyd-fynd gyda 1,100fed gwladychu'r wlad.[2] pan agorwyd pont hiraf Gwlad yr Iâ,[3] sy'n croesi'r afon Skeiðaráriver yn y de ddwyrain.

Nodweddion golygu

Am y rhan fwyaf o hyd y ffordd, mae'r Hringvodur ond yn cynnwys dwy lôn; un yn teithio i'r naill gyfeiriad a'r llall. Wrth basio trefi mwy, yna yn aml ceir mwy nag un lôn fel ag y mae wrth deithio yn nhwnel Hvalfjörður. Mae nifer o'r pontydd llai, yn enwedig yn nwyrain y wlad, ond yn cynnwys un lôn ac fe'u hadeiladwyd o bren neu ddur. Mae'r ffordd wedi ei arwynebu gan asphalt am y rhan fwyaf o'i hyd, ond ceir o hyd dal rhannau yn nwyrain Gwlad yr Iâ sydd ond yn cynnwys wyneb garaean. Awdurdod Ffordd Gwlad yr Iâ, y Vegagerðin, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw y brif ffordd a'r ffyrdd llai.

Y cyflymder uchaf ar y rhan fwyaf o'r ffordd yw 90 kilometres per hour (56 mph), a 80 kilometres per hour (50 mph) ar y gro.

Gyrru yn y Gaeaf golygu

 
Route 1 am i gyfeiriad y de ar hyd Viðidallsfjöll

Mae'r rhan fwyaf o'r Hringvodur ar agor drwy'r gaeaf oherwydd system clirio eira ond mae rhai rhannu ar gau. Y mwyaf amlwg o'r rhain yw'r ffordd rhwng Breiðdalsvík a Egilsstaðir (dros lwyfandir Breiðdalsheiði) yn y dwyrain.[4] I osgoi'r broblem a pharhau gyrru bydd cerbydau yn teithio ar hyd llwybr dennau yr arfordir trwy Reyðarfjörður, gan ddefnyddio hen Route 95 a route 92 i deithio rhwng y trefi. Daeth y ffordd arfordir yn rhan swyddogol o'r Hringvoegur ym mis Tachwedd 2017, gan gymryd lle llwybr Breiðdalsheiði sydd nawr wedi ei rhifo yn Route 95.[5]

Pergyglon Naturiol golygu

 
Arwyddbost gyda cyflymder gwynt a thymheredd ger Hellisheidi

Mae'r Hringvodur yn teithio ar draws rhai gwastadeuoedd rhewlif megis Skeiðarársandur a chosodd adeiladu'r ffordd yn anodd. Yn ychwanegol, mae gwastatir Skeiðarársandur yn dioddef o lifogydd rhewlifol yn ystod, neu yn dilyn, ffrwydriadau llosgfynydd Grímsvötn. Bu'n rhaid ail-adeiladu rhannau o'r ffordd a phontydd mewn sawl man o ganlyniad i hyn,

Traffig golygu

ceir amrwyiaeth fawr yn llif y traffig ar hyd gwahanol rannau. O gwmpas y brifddinas, Reykjavík bydd rhwng 5,000–10,000 cerbyd y dydd yn teithio ar y ffordd yn ddyddiol. Ond gall rhannau eraill weld cyn-lleied â 100 cerbyd y dydd.

Mae'r Hringvegur yn boblogaidd gyda thwristiaid gan ei fod yn teithio ar draws gymaint o'r wlad ac yn cysylltu gymaint o atyniadau'r ynys. Maen boblogaidd gyda thwristiaid sy'n llogi car neu yn glanio ar y fferi yn Seyðisfjörður gyda'i ceir ei hunain.

Rhannau golygu

Mae gan rannau o'r Hringvegur wahanol enwau ar hyd gwahanol lefydd. Mae'r tabl isod yn dangos enwau'r gwahanol lleiniau (gan hepgor twneli) ar hyd y route i gyfeiriad y cloc gan ddechrau yn Reykjavík.

 
Cyffordd Suðurlandsvegur (chwith) a Vesturlandvegur (dde isaf) yn Reykjavík. Mae'r olaf yn parhau am fwy na 2 km i'r gorllewincyn ymuno gyda Route 49
 
Hringvegur
Enw Lleoliad
Vesturlandsvegur Dwyrain Reykjavík i Borgarnes
Borgarbraut Borgarnes
Hringvegur Borgarnes i ogledd Akureyri
Hörgárbraut Akureyri
Glerárgata Akureyri
Drottningarbraut (rhannol) Akureyri
Hringvegur De Akureyri i'r troad am Höfn
Suðurlandsvegur Höfn i Hella
Suðurlandsbraut O Hella i Selfoss
Austurvegur Selfoss
Suðurlandsvegur O Selfoss i ddwyrain Reykjavík

Cyfeiriadau golygu

  1. "Best Attractions by the Ring Road of Iceland". Guide to Iceland.
  2. "Iceland: Milestones in Icelandic History". Iceland.vefur.is. Cyrchwyd 2010-04-17.
  3. The Road System - 2012. Icelandic Road Administration, ICERA.
  4. "Mokstursdagar" (yn Icelandic). Icelandic Road Administration. Cyrchwyd 12 Chwefror 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. name="change2017"