Gwleidydd Albanaidd yw Humza Haroon Yousaf (/ˈhʌmzə ˈjʊsəf/; ganwyd 7 Ebrill 1985) a fu'n Brif Weinidog yr Alban ac arweinydd y Blaid Genedlaethol yr Alban (neu'r SNP) rhwng Mawrth 2023 a 2024. Yn 37 mlwydd oed ef oedd yr ieuengaf i arwain senedd yr Alban.[1]

Humza Yousaf
GanwydHumza Haroon Yousaf Edit this on Wikidata
7 Ebrill 1985 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the 4th Scottish Parliament, Member of the 5th Scottish Parliament, Member of the 6th Scottish Parliament, Cabinet Secretary for Health and Social Care, Minister for Europe and International Development, Minister for Transport and the Islands, Cabinet Secretary for Justice, Prif Weinidog yr Alban Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
PriodNadia El-Nakla Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://humzayousaf.scot/ Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Glasgow, yn fab i deulu Pacistanaidd.[2]

Gyrfa golygu

Bu'n Ysgrifennydd Iechyd yr Alban.Ar 27 Mawrth 2023, yn yr etholiad am arweinydd yr SNP fe drechodd yr Ysgrifennydd Cyllid Kate Forbes, gyda 52% i 48%.[3] Llongyfarchwyd Yousaf gan Adam Price a Liz Saville Roberts o Blaid Cymru.

Yn Ebrill 2024 daeth a chytundeb Lywodraeth SNP â’r Blaid Werdd i ben.[4] Yn dilyn hyn nid oedd ganddo ddigon o gefnogaethu i barhau fel Prif Weinidog. Er ei fod wedi ceisio ennill cefnogaeth o bleidiau eraill, roedd disgwyl iddo wynebu pleidlais o ddiffyg hyder. O'r herwydd, ar 29 Mawrth 2024, ymddiswyddodd fel arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Humza Yousaf i gael ei ddewis yn chweched Prif Weinidog Yr Alban". S4C. 28 Mawrth 2023. Cyrchwyd 8 Ebrill 2023.
  2. "Humza Yousaf MSP | PrideOfPakistan.com". Pride of Pakistan (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2023. Cyrchwyd 12 Mawrth 2023.
  3. "Ethol Humza Yousaf fel arweinydd newydd yr SNP". Golwg360. Cyrchwyd 8 Ebrill 2023.
  4. "Disgwyl i Brif Weinidog yr Alban gamu o'r neilltu". Golwg360. 2024-04-29. Cyrchwyd 2024-04-29.
  5. "Humza Yousaf to resign as Scotland's first minister". BBC News (yn Saesneg). 2024-04-29. Cyrchwyd 2024-04-29.