Roedd Arthur Ian Lavender (16 Chwefror 19462 Chwefror 2024) yn actor Seisnig. Roedd e'n fwyaf adnabyddus am ei rol fel Frank Pike yn y gyfres teledu Dad's Army. Cafodd Lavender ei eni yn Birmingham. [1] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Dechnegol Bechgyn Bournville, lle ymddangosodd mewn llawer o gynyrchiadau dramatig ysgol. Aeth i'r Ysgol Theatr Old Vic Bryste, gyda chymorth o Ddinas Birmingham. [2] Priododd â Suzanne Kerchiss. Bu iddynt ddau fab, ond ysgarasant yn ddiweddarach. Wedyn priododd â Miki (Michele) Hardy.[3]

Ian Lavender
Ganwyd16 Chwefror 1946 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 2024 Edit this on Wikidata
Woolpit Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Ysgol Theatr Old Vic, Bryste
  • Bournville School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodSuzanne Kerchiss Edit this on Wikidata

Ymddangosodd Lavender hefyd yn yr opera sebon Eastenders o 2001 hyd 2016, gan chwarae rhan Derek Harkinson.[4]

Bu farw Lavender yn 77 oed, ar ôl goroesi canser a thrawiad ar y galon.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. GRO Register of Births: MAR 1946 6d 813 BIRMINGHAM – Arthur I. Lavender, mmn = Johnson
  2. "Ian Lavender". The Bolton News (yn Saesneg). 8 Mawrth 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2020.
  3. 3.0 3.1 Kevin Rawlinson (5 Chwefror 2024). "Dad's Army actor Ian Lavender dies aged 77". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.
  4. "Yr actor Ian Lavender wedi marw yn 77 oed". Newyddion S4C. Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.