Anthropolegydd Canadaidd oedd Isabel Crook (15 Rhagfyr 191520 Awst 2023) a drigodd yn Tsieina am y rhan fwyaf o'i hoes.

Isabel Crook
Ganwyd15 Rhagfyr 1915 Edit this on Wikidata
Chengdu Edit this on Wikidata
Bu farw20 Awst 2023 Edit this on Wikidata
Beijing Edit this on Wikidata
Gwobr/auFriendship Medal Edit this on Wikidata

Ganed Isabel Brown yn Chengdu, yn nhalaith Sichuan, tridiau wedi sefydlu Ymerodraeth Tsieina, yn ystod cyfnod hynod o gythryblus yn y wlad. Cenhadon Methodistaidd o Ganada oedd ei rhieni, Homer Brown a Muriel Hockey, a gyfarfu yn Chengdu, a phriodasant ym 1915. Mynychodd Isabel a'i ddwy chwaer yr ysgol Ganadaidd yn Chengdu cyn symud i Ganada. Wedi iddi raddio o Goleg Victoria, Prifysgol Toronto, ym 1939, dychwelodd Isabel i Tsieina i wneud gwaith maes ym mhentrefi'r bobl Yi yng ngorllewin Sichuan, cymdeithas o gaethwasiaeth a siamaniaeth.[1]

Ym 1940, ymunodd â phrosiect gan Gyngor Cristnogol Cenedlaethol Tsieina i adfer ardal wledig ar gyrion Chongqing, gyda'r gorchwyl o gynnal arolwg o'r trigolion. Casglodd Isabel filoedd o dudalennau o ddata am y boblogaeth leol, a'i bwriad oedd i ysgrifennu llyfr, ond rhoddwyd taw ar ei gwaith gan yr Ail Ryfel Byd a chamau ola'r chwyldro comiwnyddol. Yn ei henaint, yn y 1990au, dychwelodd i'r ardal i wneud rhagor o ymchwil, a chyhoeddwyd ei chyfrol Prosperity's Predicament o'r diwedd yn 2013.[1]

Cyfarfu Isabel â David Crook, Prydeiniwr ac ysbïwr i'r Undeb Sofietaidd, yn Chongqing ym 1941. Symudodd y ddau ohonynt i Loegr i briodi, ac yno ymunodd Isabel â'r Blaid Gomiwnyddol. Enillodd ei doethuriaeth o Ysgol Economeg Llundain. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, dychwelasant i Tsieina, pan oedd trobwynt yn y rhyfel cartref. Erbyn 1949, gyrrwyd lluoedd Chiang Kai-shek ar ffo a chipiwyd Beijing gan Mao Tse-tung, gan sefydlu felly Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Gweithiodd Isabel unwaith eto yng nghefn gwlad, ym mhentref Shilidian, yn astudio bywydau'r gwerinwyr a'u hymdrechion i addasu i'r drefn gomiwnyddol newydd, a chyda chymorth David cyhoeddodd y gyfrol Revolution in a Chinese Village: Ten Mile Inn (1959), un o brif weithiau academaidd yr oes i ymdrin â diwygio tir yn Tsieina. Wedi buddugoliaeth y comiwnyddion, gwahoddwyd y cwpl gan y llywodraeth i adfer Prifysgol Astudiaethau Tramor Beijing, yr ysgol ieithoedd tramor i hyfforddi diplomyddion. Dychwelodd Isabel a David i Shilidian ym 1959–60 i fyw mewn cymuned sosialaidd, a chefnogodd y cwpl bolisïau'r Naid Fawr Ymlaen. Ffrwyth eu profiad oedd y gyfrol The First Years of Yangyi Commune (1966).

Cyhuddwyd David Crook o ysbïo yn ystod y Chwyldro Diwylliannol, a fe'i carcharwyd am bum mlynedd, o 1968 i 1973. Cafodd Isabel ei chyfyngu i gampws y Brifysgol Astudiaethau Tramor am dair blynedd, o 1970 i 1973. Cawsant eu hailsefydlu gan y Prif Weinidog Zhou Enlai, a byddai'r ddau ohonynt yn ymlynu â'r llywodraeth wedi marwolaeth Mao ym 1976, hyd nes iddynt siarad yn gyhoeddus yn erbyn yr ymateb i brotestiadau Sgwâr Tiananmen ym 1989.[1]

Bu farw David Crook yn 2000; cawsant dri mab. Yn 2019 gwobrwywyd i Isabel Fedal Cyfeillgarwch Tsieina gan yr Arlywydd Xi Jinping. Bu farw Isabel Crook yn Beijing yn 107 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) John Gittings, "Isabel Crook obituary", The Guardian (21 Awst 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 27 Awst 2022.
  2. (Saesneg) "Isabel Crook, Maoist English teacher who spent her life in China supporting the regime – obituary", The Daily Telegraph (25 Awst 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Awst 2023.