Jac y do

rhywogaeth o adar
Jac y do
Corvus monedula

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Coloeus[*]
Rhywogaeth: Coloeus monedula
Enw deuenwol
Coloeus monedula
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Jac y do (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: jac dos) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Coloeus monedula; yr enw Saesneg arno yw Jackdaw. Mae'n perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. monedula, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Gellir adnabod y Jac-y-do yn weddol hawdd. Mae'n un o'r lleiaf o deulu'r brain, 34–39 cm o hyd. Du yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae'r bochau a'r gwddf yn llwyd golau. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o deulu'r brain, mae'r llygaid yn wyn. Fel rheol maent yn casglu at ei gilydd yn heidiau, weithiau gannoedd gyda'i gilydd.

Maent yn hoffi cymysgedd o goed a thir agored, ac fel rheol maent yn bwydo ar lawr gan gymeryd unrhyw bryfed neu anifeiliaid bychain eraill, a hefyd hadau a grawn. Maent yn aml yn nythu ar glogwyni, weithiau nifer fawr gyda'i gilydd, ond adeiledir nythod mewn coed neu hen adeiladau hefyd, ac ambell dro mewn corn simddai. Dodwir 4-5 o wyau.

Mae'r Jac-y-do yn aderyn cyffredin ac adnabyddus yng Nghymru.

Teulu golygu

Mae'r jac y do yn perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Brân America Corvus brachyrhynchos
 
Brân Caledonia Newydd Corvus moneduloides
 
Brân Dyddyn Corvus corone
 
Brân Hawaii Corvus hawaiiensis
 
Brân Lwyd Corvus cornix
 
Brân Sinaloa Corvus sinaloae
 
Brân Tamaulipas Corvus imparatus
 
Brân bigfain Corvus enca
 
Brân jyngl Corvus macrorhynchos
 
Brân tai Corvus splendens
 
Cigfran Corvus corax
 
Cigfran bigbraff Corvus crassirostris
 
Cigfran yddfwinau Corvus ruficollis
 
Ydfran Corvus frugilegus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [1]Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  Safonwyd yr enw Jac y do gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.