Diddanwr a chyfansoddwr caneuon oedd John "Jack" Judge (3 Rhagfyr 187225 Gorffennaf 1938).

Jack Judge
Ganwyd3 Rhagfyr 1878 Edit this on Wikidata
Oldbury Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 1938 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
West Bromwich Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr caneuon, canwr Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Oldbury, Lloegr ond oedd ei rieni'n fewnfudwyr o Iwerddon. Dechreuodd weithio yng Ngwaith Haearn Oldbury yn 12 oed. Bu farw ei dad ym 1888, a rheolodd Jack ei fusnes teuliol gwerthu pysgod yn ogystal â gweithio yn y gwaith haearn. Erbyn diwedd y 19g, roedd wedi dechrau perfformio, yn gyntaf yn Theatr Gaiety, Oldbury, ac yn bellach o gwmpas yr ardal, ac roedd wedi dechrau ysgrifennu caneuon. Daeth o'n broffesiynol yn 1910.[1]

It's a long way to Tipperary golygu

Weithiau, buasai'n mentro ysgrifennu cân erbyn y diwrnod nesaf. Ar 31 Ionawr 1912, canodd o ' It's a long way to Tipperary ' yn Theatr Grand, Stalybridge, yn honni ei fod wedi ysgrifennu'r gân y noson gynt. Mae pobl yn Oldbury'n honni eu bod nhw wedi clywed y gân yn gynharach. Cyhoeddwyd y gân gan Bert Feldman Canwyd y gân gan Florrie Forde ym 1913, a recordiodd John McCormack y gân ym 1914. Canwyd y gân gan y Connaught Rangers, sydd wedi clywed fersiwn John McCormack, ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, a lledaenwyd y gân i gatrodau eraill.[1]

Cyfeiriadau golygu