Cyfreithegwr ac ysgolhaig clasurol Ffrengig oedd Jacques Cujas (Lladin: Jacobus Cujacius; 15224 Hydref 1590) sydd yn nodedig am ei astudiaethau o'r gyfraith Rufeinig.

Jacques Cujas
Portread o Jacques Cujas gan arlunydd anhysbys (tua 1580).
FfugenwAntonius Mercator Edit this on Wikidata
Ganwyd1522 Edit this on Wikidata
Toulouse Edit this on Wikidata
Bu farw4 Hydref 1590 Edit this on Wikidata
Bourges Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Toulouse Edit this on Wikidata
Galwedigaethjurist-consultant, athronydd, hanesydd y gyfraith Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Toulouse, Teyrnas Ffrainc, ac yno astudiodd y gyfraith. Bu'n athro ym mhrifysgolion Toulouse, Valence, a Bourges, gan ennill enw ar draws Ewrop, ac ymhlith ei ddisgyblion oedd Joseph Justus Scaliger a Pierre Pithou. Bu farw Jacques Cujas yn Bourges.[1]

Cyfreithiau Iwstinian oedd maes arbenigol Cujas. Cesglid yn ei Paratitla wirebau byrion ac eglur o Grynhoad a Chôd Iwstinian sydd yn cyfleu egwyddorion sylfaenol y gyfraith Rufeinig. Cyflawnodd Cujas hefyd argraffiad o Gôd Theodosiws. Cyhoeddwyd argraffiad llawn o weithiau Cujas, mewn deg cyfrol, gan Charles Annibal Fabrot ym 1658.


Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Jacques Cujas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2021.