James Birch

oriadurwr a sectwr

Oriadurwr a sectydd o Gymro oedd James Birch (fl. 1771–1790,[1] bu farw mis Hydref 1800?)[2] a sefydlodd mudiad y Birchiaid.

James Birch
GanwydSir Benfro Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1800 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoriadurwr, arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata

Ymddengys iddo gael ei eni yn Sir Benfro. Gweithiodd fel oriadurwr yn Llundain a chlywir y sôn cyntaf amdano ym 1759, yn aelod o'r Muggletoniaid. Gadawodd â'r mudiad hwn ym 1778 gan gychwyn sect ei hunan.[3]

Honodd Birch taw ef oedd trydydd proffwyd y Muggletoniaid ar ôl Lodowicke Muggleton a John Reeve. Datganodd Birch fod y byd yn dod i ben a bod Duw yn casglu'i "ddefaid" ac yn cael gwared â'i "eifr". Condemniodd broffwydi eraill gan alw ei hunan yn "broffwyd rheswm". Cyfansoddodd ganeuon i ddenu dilynwyr, y mwyafrif ohonynt yn Gymry[1] yn enwedig o Sir Benfro.[3] Ar ei anterth roedd gan Birch rhwng 50 a 60 o ddilynwyr.[2] Symudodd y Birchiaid i ffwrdd o ysbrydolrwydd pur y Muggletoniaid gan ddilyn credo o hawliau naturiol a rhyddid cydwybod.[1]

Erbyn 1788 cyhuddwyd Birch o fod yn ddiafol ac yn swynwr gan Fuggletoniaid eraill,[1] ac ym 1795 y crybwyllir ef am y tro diwethaf a hynny yn archifau'r Muggletoniaid. Tua'r flwyddyn 1800 cyhoeddodd ddau lyfr rhyfedd, a chredir iddo farw yn Hydref 1800, fwy na thebyg yn Llundain.[2] Goroesodd ei sect hyd y 1860au, pan oedd rhai Birchiaid yn Swydd Derby yn dilyn dysgeidiaeth y Muggletoniad Thomas Tomkinson,[1] ac roedd dau ddilynwr yn dal i fyw ym 1871.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 William H. Brackney (2012). Historical Dictionary of Radical Christianity. Scarecrow Press, tud. 54. URL
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Gordon, Alexander; Mercer, M. J. (2004). "Birch, James (d. 1800?)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/2428.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  3. 3.0 3.1  Birch, James (bu f. 1795?). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 16 Hydref 2013.