Jane Brereton

bardd

Bardd Cymreig yn yr iaith Saesneg oedd Jane Brereton (1685 - 1740), a gyhoeddai dan yr enw barddol "Melissa". Roedd hi'n frodores o'r Wyddgrug yn Sir y Fflint.[1]

Jane Brereton
Ganwyd1685 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw7 Awst 1740 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodThomas Brereton Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Jane Brereton yn yr Wyddgrug yn 1685. Yn 1711, priododd y dramodydd o Sais Thomas Brereton. Ar ôl marwolaeth ei gŵr yn 1722 symudodd i fyw yn Wrecsam lle treuliodd weddill ei hoes.[1]

Cerddi golygu

Cyfrannodd "Melissa" nifer o gerddi i'r cylchgrawn Saesneg dylanwadol The Gentleman's Magazine ond ni chyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi yn ystod ei hoes. Ar ôl ei marw yn 1740 cyhoeddwyd y gyfrol Poems on Several Occasions yn 1744, ei hunig gyfrol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1992).


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.