Janet Ackland
Mae Janet Ackland (ganwyd 19 Rhagfyr 1938) yn fowliwr Cymreig. Dechreuodd fowlio ym 1959 ac enillodd ei theitl cyntaf yn Llandrindod ym 1969. Mae hi wedi bod yn aelod o dîm bowlio Rhyngwladol Cymru ers 1973, gan ennill 100 o gapiau dan do ac yn yr awyr agored. Roedd hi hefyd yn gapten tîm ei wlad.
Janet Ackland | |
---|---|
Ganwyd | 19 Rhagfyr 1938 |
Bu farw | 2019 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bowls player |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae hi wedi ennill dau deitl Ynysoedd Prydain a phedwar coron Cymreig ac wedi cystadlu mewn pedwar o Gemau'r Gymanwlad yn olynol. Enillodd Janet medal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd 1977, ond daeth pinacl ei gyrfa hir pan enillodd orest y senglau a'r medal aur yn Gemau 1990 yn Auckland. Yn Gemau'r Gymanwlad 1994 enillodd fedal efydd yn y parau gyda Ann Dainton.
Mae'n aelod o Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru.