Mae Jap[1] neu Siap yn derm sarhaus am berson o Japan. Yn achlysurol, cyfeirir ato fel y "gair J". Yn Saesneg, mae'n deillio o ffurf fyrrach o'r gair "Japan" neu "Japanese" (neu "Japan" a "Japaneaidd" yn Gymraeg). Cyfystyr llai cyffredin o'r gair yw "nipp", ffurf fyrrach ar "Nippon", yr hen ynganiad "Nihon", yr enw ar Japan yn Japaneg. Nid oedd y gair yn wreiddiol yn sarhaus, ond ers yr ymosodiad ar Pearl Harbor, mae wedi dod yn slur ethnig.[2] Oherwydd y cynnydd mewn teimlad gwrth-Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd y gair ar arwyddion hiliol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn fwyaf arbennig ar arwyddion yn darllen "no Japs allowed" ("Dim Japiau yn cael ei ganiatáu").

Posterpropaganda o'r Ail Ryfel Byd yn defnyddio slogan adloi yn y testun

Cyd-destun Cymreig golygu

Er na ddefnyddir y term dirmygu, "Jap" na chwaith awgrym o sarhâd bwriadol, mae cân adnabyddus Asso Asso Yogoshi gan y perfformiwr poblogaidd Max Boyce yn cynnwys geiriau a sentiment na fyddai'n cael eu canu heddiw. Fel dywedodd erthygl yn y Wales Online yn 2016, "As a product of the 1970s, it is not a song you would expect to be written today." Ysgrifennwyd y gân i gyd-fynd ag ymweliad tîm rygbi Siapan â Chymru yn 1973 a achosodd cryn dipyn o ddiddordeb ac ewyllus da, ond hefyd, beth efallai byddai heddiw yn cael ei weld yn hwyl nawddoglyd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. https://geiriaduracademi.org/
  2. Paul Fussell, Wartime: Understanding and Behavior in the Second World War, Oxford University Press, 1989, p. 117.
  3. "The inside story of a famous Max Boyce tribute song to the Japan rugby team which would never have been written today". Wales Online. 18 Tachwedd 2016.