Bardd o Loegr yw Jen Hadfield (ganwyd 1978) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel arlunydd a libretydd. Mae ei themau'n cynnwys y cartref, y gwyll, tirluniau ac iaith.[1]

Jen Hadfield
Ganwyd1978 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, libretydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Eric Gregory Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rogueseeds.blogspot.com Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Shetland yn 1978. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Caeredin a Phrifysgol Glasgow.[2]

Hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi tri chasgliad o farddoniaeth. Enillodd ei chasgliad cyntaf, Almanacs, Wobr Eric Gregory yn 2003. Hadfield yw'r person ieuengaf i dderbyn Gwobr TS Eliot, gyda'i hail gasgliad, Nigh-No-Place, a hynny yn 2008.

Mae cerddi a chelf weledol Hadfield wedi'u seilio ar ei phrofiad o fyw, gweithio a theithio yn Shetland ac Ynysoedd Allanol Heledd, yr Alban, a Chanada hefyd. Yn ei gwaith fel artist, mae hi'n aml yn defnyddio gwrthrychau a ddarganfuwyd, deunyddiau achub a broc môr.

Yn 2007, galluogodd Gwobr Dewar iddi deithio ym Mecsico ac ymchwilio i gelf werinol defosiynol y wlad. "Creodd arddangosfa unigol o ex votos Shetland yn arddull celf werin sanctaidd Mecsico" - tirluniau bach, cludadwy, cyfarwydd sy'n llawn dop o duniau tybaco wedi'u hindreulio.

Magwraeth golygu

Daeth ei mam o Ganada a'i thad o Loegr.[3] Fe'i magwyd yn Swydd Gaer, Lloegr.[4]

Derbyniodd radd BA mewn Saesneg a Llenyddiaeth Loegr cyn derbyn MLitt am sgwennu creadigol.[4]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Eric Gregory .


Cyfeiriadau golygu

  1. "Jen Hadfield". Poetry Foundation. Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.
  2. Dyddiad geni: "Jen Hadfield". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jen Hadfield". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. "About Jen Hadfield". The Poetry Archive. Cyrchwyd 10 Ionawr 2018.
  4. 4.0 4.1 "Jen Hadfield (b. 1978)". Scottish Poetry Library. Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.