Jeremy Owen

gweinidog Presbyteraidd ac awdur

Llenor Cymraeg ar bynciau crefyddol oedd Jeremy Owen (fl. 1704 - 1744), a gofir fel awdur y gyfrol Golwg ar y Beiau.[1]

Jeremy Owen
Ganwyd1700s Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1704 Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Cafodd ei addysg yn ysgol ei ewythr yn Amwythig. Dilynodd ei dad yn weinidog Ymneilltuol yn Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin, yn 1711.[1]

Yn 1732-33, cyhoeddodd Golwg ar y Beiau. Yn y llyfr hwnnw ceir ymateb Owen i'r rhwyg yn yr eglwys Bresbyteraidd yn yr ardal a arweiniodd at un o ddadleuon diwinyddol poethaf y 18g, rhwng pleidwyr Uchel ac Isel Calfiniaeth. Ystyrir y llyfr bychan hwn yn glasur o'r cyfnod am "ragoriaeth ei Gymraeg cyhyrog".[1]

Llyfryddiaeth golygu

Testunau golygu

  • Golwg ar y Beiau (1732-33)
  • Y Ddyledswydd Fawr Efengylaidd o Weddio dros Weinidogion (1733)

Astudiaethau golygu

Ceir ysgrif gan Saunders Lewis ar waith Jeremy Owen yn y gyfrol Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd, 1973)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.