Jessie Donaldson

gwraig wrth-gaethwasiaeth a oedd yn gweithio yn Abertawe; 1799-1889

Roedd Jessie Donaldson (ganwyd Jessie Heineken; 17991889) yn athrawes ac ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth.[1]

Jessie Donaldson
Ganwyd1799 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Bu farw1889 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Man preswylAbertawe, Ohio Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethathro, ymgyrchydd Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni ym Mhryste, yn ferch i'r ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth Samuel Heineken. Gyda'i chwaer, Mary-Ann, Jessie oedd perchennog ysgol yn Abertawe. Priododd Francis Donaldson ym 1840, a symudon nhw i Ohio, UDA.[2] Daeth eu tŷ yn lloches i gaethweision a oedd wedi dianc. Daethant yn ôl i Abertawe ym 1866, ar ôl diddymu caethwasiaeth. Bu farw Francis ym 1873.

Cyfeiriadau golygu

  1. John Cooper (5 Gorffennaf 2020). "The Welsh woman who left everything behind to help slaves to freedom in America". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2020.
  2. "Memorial to Jessie Donaldson, Swansea". History Points (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2020.