Gwleidydd a chyfreithiwr o Gatalwnia yw Joaquim Forn (ganwyd 1 Ebrill 1964). Bu'n faer Barcelona ac yn Weinidog Cartref hyd at Gorffennaf 2017 yn dilyn Datganiad Annibynniaeth Catalwnia.

Joaquim Forn
Ganwyd1 Ebrill 1964 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Barcelona
  • Lycée Français de Barcelone Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Home Affairs, cynghorydd tref Barcelona, Dirprwy Faer, Aelod o Senedd Catalwnia, cadeirydd, cynghorydd tref Barcelona, Dirprwy Cyngor Rhabarthol Barcelona Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Mediapro Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ddemocrataidd Ewropeaidd Catalwnia, Convergència Democràtica de Catalunya, Junts per Catalunya Edit this on Wikidata
PriodLaura Masvidal Edit this on Wikidata

Graddiodd ym Mhrifysgol Barcelona, cyn ymuno â byd y gyfraith. Ymunodd â'r Convergència Democràtica de Catalunya (CDC) pan oedd yn fyfyriwr, a bu'n lladmerydd dros annibyniaeth ei wlad ers yn ifanc. Etholwyd ef ar Gyngor Dinas Barcelona yn 1999 ac erbyn 2011 roedd wedi'i benodi'n Ddirprwy Faer, gan wasanaethu yn y swydd honno tan 2015. Yna, etholwyd ef yn Weinidog Cartref Catalwnia, yng Ngorffennaf 2017.

Bywyd personol golygu

Mae'n briod â Laura Masvidal ac mae ganddynt ddwy ferch.[1][2]

Annibynniaeth golygu

Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia, er i Lywodraeth Sbaen ddatgan y byddai hynny'n groes i gyfansoddiad Sbaen. Roedd 92% o'r bleidlais dros annibynniaeth. Cafwyd Datganiad o Annibynniaeth gan Lywodraeth Catalwnia ar 27 Hydref 2017 a chymerodd Llywodraeth Sbaen drosodd, gan weinyddu'n uniongyrchol a chael gwared o Lywodraeth Catalwnia, gan gynnwys Forn.

Ar 30 Hydref 2017, cyhuddodd Llywodraeth ac uchel lys Sbaen nifer o wleidyddion Catalwnaidd (gan gynnwys Forn) o gamddefnyddio arian ac annog gwrthryfel. Ffodd gyda Carles Puigdemont ac eraill i Wlad Belg ond dychwelodd ei hun ar 31 Hydref 2017 ac fe'i clowyd yn y ddalfa. Pan gynhaliwyd etholiad ar 21 Rhagfyr 2017, fe'i etholwyd i Lywodraeth Catalwnia, lle roedd mwyafrif o blaid annibyniaeth i Gatalwnia, er ei fod yn dal yn y carchar. Ymddiswyddodd o'r swydd hoinno, am resymau tachtegol, yn Ionawr 2018. Bu ar ympryd yn Rhagfyr 2018. Ar 1 Chwefror, fe'i trosglwyddwyd o garchar yng Nghatalwnia i garchar yn Madrid ar gyfer achos llys.[3][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Nou govern: Joaquim Forn, l'home que dirigirà els Mossos l'1-O". Diari de Girona (yn Catalan). Girona, Spain. EFE. 14 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 22 Ionawr 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. "Joaquim Forn" (PDF) (yn Catalan). Barcelona, Spain: Ajuntament de Barcelona. 13 Mehefin 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-08-21. Cyrchwyd 22 Ionawr 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Bathgate, Rachel. "Jailed Catalan leaders end hunger strike". www.catalannews.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-02-03.[dolen marw]
  4. Congostrina, Alfonso L. (2019-02-01). "Catalan independence leaders moved to Madrid jails ahead of trial". El País (yn Saesneg). ISSN 1134-6582. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd 2019-02-03.