John Aubrey, 3ydd Barwnig

Roedd Syr John Aubrey, 3ydd Barwnig (20 Mehefin 168016 Ebrill 1743) yn wleidydd a barwnig a chynrychiolodd Caerdydd yn y Senedd.[1]

John Aubrey, 3ydd Barwnig
Ganwyd20 Mehefin 1680 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1743 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o Senedd 1705-07 Edit this on Wikidata
TadJohn Aubrey Edit this on Wikidata
MamMargaret Lowther Edit this on Wikidata
PriodMary Stealy, Frances Jephson Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Aubrey, Sir John Aubrey, 4th Baronet, Sir Thomas Aubrey, 5th Bt. Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd yn fab i Syr John Aubrey, 2il Farwnig a'i wraig gyntaf Margaret Lowther, merch Syr John Lowther, Barwnig 1af. Ym 1700, olynodd Aubrey ei dad fel barwnig. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle'r ymaelododd yn 1698.[2]

Gyrfa golygu

Cafodd Aubrey ei ethol yn Aelod Seneddol etholaeth Caerdydd ym 1706, gan gynrychioli'r etholaeth yn Nhŷ Cyffredin Lloegr hyd 1707, ac yna yn Nhŷ Cyffredin Prydain hyd 1710. Ym 1711 cafodd ei benodi'n Uchel Siryf Morgannwg.

Teulu golygu

Bu Aubrey'n briod tair gwaith priododd ei wraig gyntaf Mary Steally yn Eglwys Sant Iago, Piccadilly ym 1701, roedd hi'n forwyn i'w Mam a ymfeichiogwyd gan Awbrey gan orfodi priodas;[3] bu iddynt dau fab a phedair merch. Priododd Aubrey yn ail Frances Jephson, merch William Jephson erbyn 1708 ac yn drydydd Jane Thomas ym 1725. Bu iddo ddwy ferch o'i ail wraig ni fu plant o'r drydedd briodas. Bu farw Aubrey yn 62 mlwydd oed a chafodd ei gladdu yn Eglwys plwyf Boarstall wythnos yn ddiweddarach. Olynwyd ef yn y farwnigaeth yn olynol gan ei feibion John a Thomas.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Leigh Rayment - Baronetage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-25. Cyrchwyd 18 Awst 2015.
  2. Kimber, Edward (1771). Richard Johnson (gol.). The Baronetage of England: Containing a Genealogical and Historical Account of All the English Baronets. vol. II. London: Thomas Wotton. t. 74.
  3. The History of Parliament: the House of Commons 1690-1715, ed. D. Hayton, E. Cruickshanks, S. Handley, 2002 AUBREY, Sir John, 3rd Bt. (1680-1743), of Llantriddyd, Glam. and Boarstall, Bucks. [1] adalwyd 19 Awst 2015
Senedd Prydain Fawr
Rhagflaenydd:
Thomas Mansel
Aelod Seneddol Caerdydd
17061710
Olynydd:
Edward Stradling
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Edward Stradling
Uchel Siryf Morgannwg
1711
Olynydd:
John Curre