John Kelt Edwards

arlunydd

Cartwnydd o Gymru oedd John Kelt Edwards (4 Mawrth 1875 - 11 Hydref 1934).[1]

John Kelt Edwards
Hunanbortread 1906
FfugenwPwyntil Meirion Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Mawrth 1875 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw11 Hydref 1934 Edit this on Wikidata
Talsarnau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcartwnydd, arlunydd Edit this on Wikidata
TadJ. N. Edwards Edit this on Wikidata
MamMargaret Edwards Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Cafodd John Edwards ei eni ym Mlaenau Ffestiniog ym 1875, yn fab i John Edwards, haearnwerthwr a Margaret ei wraig. Cafodd ei  addysgu yn ysgol elfennol Blaenau Ffestiniog ac yng Ngholeg Llanymddyfri. O Lanymddyfri aeth am gyfnod i Wolverhampton i ddysgu ysgythru ac yno i Beaumont Academy, ar ynys Jersey. Dychwelodd adref i'r Blaenau gan aros yn ddibynnol ar gynhaliaeth ei dad.

Ym 1900 enillodd Edwards dystysgrif am 12 darlun ar thema Y Bardd Cwsg yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl. Parhaodd ei addysg yn Ecole des Beaux Arts, Paris.[2] Ym 1902 aeth i astudio yn Academi Brydeinig y Celfyddydau yn Rhufain. Tra ar y cyfandir y mabwysiadodd yr enw Kelt, yn ôl Ted Breeze Jones ar gyngor Augusta Hall, Llanofer, gan fod enw cyffredin fel John yn annhebygol o sefyll allan i artist addawol. (nid yw Ted Breeze Jones yn eglur os mae Gwenynen Gwent, neu Augusta ei merch oedd yn gyfrifol am awgrymu'r enw).[3]

Gyrfa golygu

Yn ystod ei gyfnod ym Mharis arddangosodd ei waith yn y Salon Paris. Ym 1902 cafodd ei gomisiwn Cymreig pwysig cyntaf, sef peintio 12 o ddarluniau ar gyfer cyfieithiad Daniel Rees o Divina Commedia Dante (Dwyfol Gân 1902), gan arddangos dau o'r lluniau gwreiddiol yn Yr Academi Frenhinol Gymreig. Bu wedyn yn paratoi darluniau ar gyfer nifer o lyfrau a chylchgronau Cymreig  megis clawr Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, gan David Bowen (Myfyr Hefin), clawr Y Traethodydd, Cymru'r Plant a'r Winllan. Darluniodd nifer o luniau wedi selio ar chwedlau'r Mabinogi ar gyfer Cylchgrawn Cymru O. M Edwards. Cynhwyswyd rhai o'i luniau yng Nghyfrol Syr John Morris Jones "Gwlad fy Nhadau".[4]

Ar ôl ei gyfnod ar y cyfandir agorodd stiwdio yn Llundain, lle fyddai'n peintio portreadau o Gymru Llundain ac yn gwneud arddangosfeydd o'i dirluniau.[5] Ymysg y Cymry enwog gwnaeth portreadu ohonynt oedd Lloyd George, Megan ei ferch, Syr O. M Edwards, Syr Walter Morgan, Arglwydd Maer, Llundain, Syr Francis Edwards, Syr Samuel Thomas Evans, Syr Vincent Evans, John Hinds, Edward Thomas John a Timothy Davies.

Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf symudodd nifer o'r bobl bwysig oedd yn gallu fforddio talu am bortreadau allan o Lundain a bu'n rhaid i Edwards cau ei stiwdio. Symudodd i fyw i Gei Newydd, Talsarnau, bwthyn haf ar lan Afon Dwyryd oedd yn eiddo i'w deulu. Derbyniodd "pensiwn" o 3 swllt yr wythnos gan ei deulu at ei gadw. Bu'n ychwanegu at ei incwm trwy gynhyrchu printiau a chardiau i'w gwerthu trwy'r post. Yr enwocaf o rain oedd cerdyn marwnad i Hedd Wyn a gyhoeddwyd gan wasg y Brython ym 1918.[6]

Marwolaeth golygu

Bu farw yng Nghei Newydd, Talsarnau o gancr yn 59 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Bethesda, Blaenau Ffestiniog.

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru casgliad archifau am John Kelt Edwards.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "EDWARDS, JOHN KELT (1875 - 1934), arlunydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-01.
  2. "DANTE IN WELSH - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1902-10-25. Cyrchwyd 2020-10-01.
  3. Jones, E. V. Breeze (Edward V. Breeze), 1929-1997. (1994). Goleuo'r sêr : golwg ar Kelt Edwards a'i waith. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. t. 14. ISBN 0-86381-302-X. OCLC 31292090.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. Y Ford Gron Cyfrol 1, Rhif 10, Awst 1931
  5. "AWELSHARTISTINLONDON - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1904-12-24. Cyrchwyd 2020-10-01.
  6. Llwyd, Alan; Gwae Fi Fy Myw, Cofiant Hedd Wyn; Cyhoeddiadau Barddas 1991 tud 264-267